Tudalen:Yr Ogof.pdf/108

Gwirwyd y dudalen hon

fydd fel croen y grawnwin porffor. Am ddeuddeng mis y portha anifeiliaid y maes ar gig y lladdedigion, ac am saith mlynedd y gwledda adar y nefoedd arnynt hwy

Yna y rhanna pobl Israel drysorau'r cenhedloedd yn eu plith ystôr fawr o ysbail a chyfoeth, nes bod hyd yn oed y cloffion a'r deillion, os bydd rhai, yn cael eu rhan."

A soniai llu o'r proffwydoliaethau hyn am y baradwys ffrwythlon a chyfoethog a fyddai yn Israel pan fendithid y wlad gan y Meseia. Yr ŷd yn tyfu'n uchel fel palmwydd, y coed ffrwythau yn llwythog beunydd, y grawnwin mor enfawr nes bod un ohonynt yn rhoi llond casgen o win! Ac ymledai ynddi dai a ymgodai i entrych nef, a phyrth o berlau drud, a tharddai o'i Theml hi ffrwd a ddyfrhâi'r holl wlad! Diflannai pob afiechyd a phoen, ac ni welid na dall na chloff na gwahanglwyfus yn y tir. Llefarai'r mud a chlywai'r byddar, a theyrnasai'r Meseia ar genedl heb un nam ar eu cyrff a heb ofid yn eu calonnau.

Nid breuddwydion fel hyn a weai Othniel yn eiriau a llinellau ar y dabled wêr a oedd ar ei lin. Ond gwelai yntau un a deyrnasai'n Frenin yn Jerwsalem. Proffwyd a bardd fel Eseia a fyddai, Person ysbrydol a yrrai Duw ei hun i arwain y genedl. Ni chydiai mewn cleddyf i ladd ei elynion, ond syllai pob gormeswr yn syn arno, gan blygu'n wylaidd yng ngŵydd ei sancteiddrwydd ef. Ac ymhlith ei bobl ei hun diflannai rhagrith a hunan a bas uchelgais . . . Ond ni ddôi'r gân a luniai Othniel. Scribliai linellau ar y dabled wêr, gan fwynhau sain llawer gair a brawddeg, ond gwyddai mai rhyddiaith noeth yn ceisio ymddangos yn farddoniaeth ydoedd: nid oedd gweledigaeth nac ysbrydiaeth yn agos iddi. Rhoes y dabled wêr o'r neilltu a chymryd rhòl o gerddi Eseia oddi ar y silff gerllaw iddo. Agorodd hi a darllen:

"Dirmygedig yw a diystyraf o'r gwŷr,
gŵr gofidus a chynefin â dolur:
ac yr oeddym megis yn cuddio'n hwynebau oddi wrtho:
dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono.
Diau, efe a gymerth ein gwendid ni,
ac a ddug ein doluriau:
eto ni a'i cyfrifasom ef wedi'i faeddu,
ei daro gan Dduw a'i gystuddio.