Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni; |
Darllenodd Othniel y darn drosodd a throsodd, gan adael i bob gair suddo'n araf i dawelwch ei feddwl. Ie, hwn, y dirmygedig, y gŵr gofidus a chynefin â dolur, hwn fyddai'r Meseia, ac nid ar amnaid, mewn munud awr, yr enillai fuddugoliaeth ac yr achubai Israel. Nid rhyw bwll neu lyn llonydd oedd bywyd cenedl ac uwchlaw iddo ddüwch siom a gormes, ac yna, pan ddôi'r Eneiniog, nef ddigwmwl a glendid heulwen. Na, patrwm ar wŷdd ydoedd, patrwm digon llwydaidd a salw efallai, ond ag edau aur y caredig a'r cain a'r pur yn ymdroelli i'r golwg weithiau. Yn raddol y tyfai'r patrwm, a'r edau aur fel pe'n diflannu'n llwyr yn llymdra rhagrith ac eiddigedd a gwneud pres. Ond deuai'r Meseia i'w ddirmygu a'i ddolurio—a syllai'r genedl yn euog ar batrwm llwyd y gwŷdd. Ai'r lliwiau dienaid hyn a weodd? gofynnai hi. I b'le yr aethai'r aur? A phlygai'i phen, gan wylo, wrth feddwl am aberth a dioddef y gŵr gofidus er ei mwyn. Yna, drwy ddagrau'i heuogrwydd, gwelai mewn syndod a llawenydd yr edau aur yn ymwau ac ymloywi a'r patrwm lleddf yn tyfu'n geinder heb ei ail.
Ond nid y Proffwyd o Nasareth oedd y Meseia. Na, yn ôl Elihu yr oedd hwnnw'n boblogaidd, yn denu'r tyrfaoedd swnllyd a chwilfrydig ar ei ôl ac yn eu boddio drwy ddangos arwyddion iddynt. Nid oedd ef yn ŵr dirmygedig a gofidus. Efallai, yr ennyd hwn yn Jerwsalem, fod y pererinion yn ymgasglu'n filoedd o'i amgylch i wylio'r gwyrthiau a wnâi, gan weiddi "Hosanna!" a "Bendigedig!" nerth eu pen. yntau wrth ei fodd yng nghanol y banllefau a'r miri . . .