Tudalen:Yr Ogof.pdf/11

Gwirwyd y dudalen hon

"Na, ddim heddiw, 'Nhad."

"Ni theimli'n dda?"

"Ddim yn wych. Heb gysgu rhyw lawer neithiwr."

"O. Gwell iti orffwys ynteu."

Yr oedd ar fin troi ymaith pan sylwodd fod golwg drwblus yn llygaid ei fab. Fel rheol, er gwaethaf ei afiechyd a'i gaethiwed, ymddangosai Othniel yn weddol hapus a digynnwrf, gan dreulio'i amser yn darllen neu fyfyrio neu farddoni'n dawel ar ei sedd wrth y ffenestr neu allan ger y nant a redai hyd fin y berllan. Ond heddiw yr oedd rhywbeth wedi'i gythryblu.

"Beth sydd, Othniel?"

"'Nhad?"

"Ie, 'machgen i?"

"Y mae'n rhaid imi dorri f'addewid i chwi. Cofiwch imi addo na soniwn wrthych eto am y proffwyd o Nasareth."

Caledodd llygaid Joseff. Yr oedd yn hoff iawn o'i fab ac ni chofiai iddynt ddadlau na chweryla am ddim erioed. Hyd rai dyddiau'n ôl, pan ddychwelodd ei hen gaethwas Elihu o Galilea yn llawn o hanesion am ddywediadau a gwyrthiau'r ffŵl o saer a gynhyrfai'r bobl i fyny yno. Rhyw Iesu bar Joseff a fu'n saer yn Nasareth ond a grwydrai'r wlad ers yn agos i dair blynedd bellach, ef a'i ddisgyblion, gan gymryd arnynt wneud gwyrthiau a gyrru ysbrydion drwg allan o bobl. Bu cyfnod pan gâi'r dyn bregethu yn synagogau'r Gogledd, ond pan glywodd gwŷr y Deml yn Jerwsalem am ei hyfdra—a'i boblogrwydd, buan y gyrrwyd Ysgrifenyddion i fyny i Galilea i wylio a gwrando trostynt eu hunain ac i droi'r synagogau yn ei erbyn. Ond ni wnaeth hynny fawr ddim gwahaniaeth, oherwydd pregethai yn awr hyd fin yr heolydd neu ar lechweddau'r bryniau neu gerllaw Llyn Gennesaret, a daliai ef a'i fagad o bysgodwyr anllythrennog i gynhyrfu'r bobl er gwaethaf pob rhybudd. Daeth ei enw i fyny droeon yn y Sanhedrin, a chytunai'r Cynghorwyr y dylid ei ddal a'i gaethiwo pan ddeuai i Jerwsalem. Ond, gan ofni i'r pererinion o Galilea godi cynnwrf yn y ddinas, ni wnaed hynny. A cheisiai Joseff a phob Cynghorwr arall anghofio am y dyn a'i ffolineb, gan obeithio y blinai'r bobl ar hwn fel ar lawer "Meseia" arall a godai o dro i dro. Ond yn awr wele'i fab ei hun, Othniel, yn sôn amdano gyda . . . ie, gyda dwyster.