Tudalen:Yr Ogof.pdf/111

Gwirwyd y dudalen hon


VI




AETH prynhawn y pedwerydd dydd, diwrnod pwysig yr oed â Chaiaffas, a mwynhâi Joseff gyntyn bach ar ôl cinio. Ond buan yr ysgydwyd ef o'i syrthni gan ei wraig.

"Y mae'n well i chwi fynd i wisgo, Joseff."

"Gwisgo?"

Cymerodd arno na ddeallai, gan edrych yn ymholgar ar ei wraig.

"Ie, gan eich bod chwi'n mynd i gyfarfod yr Archoffeiriad. Eich urddwisg."

"Dim ar gyfer pwyllgor bach answyddogol fel hwn, Esther."

"Y mae hwn yn gyfle i chwi, Joseff. Byddwch yn plesio Caiaffas, a gwyddoch mor hoff yw ef o wisgo yn ei holl urddas."

"Ond . . . "

"A pheth arall, mi fentraf y bydd y ddau Pharisead 'na yn edrych fel dau frenin."

"Pe bawn i'n mynd i'r Sanhedrin, fe'i gwisgwn, ond . . . ' "

"A 'wyddoch chwi ddim pwy arall fydd yno.

"Yr hen Annas, efallai, neu ddau neu dri o Sadwceaid eraill."

"O, o'r gorau.

"Ond mae tros hanner awr tan amser y pwyllgor."

"Oes, mi wn. Ond mae Rwth a finnau am fynd am dro i weld safle'r tŷ." Edrychodd yn arwyddocaol arno wrth chwanegu, "Rhag ofn bod y sylfaen wedi'i gosod heb yn wybod inni!"

"Bwriadaf siarad â Jafan yr adeiladydd yfory."

"Clywais hynny droeon o'r blaen, Joseff . . . Ond cyn imi fynd yr wyf am fod yn sicr eich bod chwi'n edrych ar eich gorau."

Cododd Joseff yn anfoddog; dywedai hir brofiad mai ufuddhau oedd ddoethaf. Bwriadodd orffwys am dipyn ar ôl y prynhawnbryd ac yna droi'n hamddenol tua'r Deml, ond