Tudalen:Yr Ogof.pdf/112

Gwirwyd y dudalen hon

gwyddai na châi lonydd nes gwisgo'i fantell o borffor drud a bod yn barod ryw hanner awr yn rhy fuan.

"A fuoch chwi yn nhŷ'r saer hwnnw'r bore 'ma, Joseff?" Gwyddai ei wraig cyn gofyn y cwestiwn beth fyddai'r ateb. "Naddo, wir, Esther. Fe aeth y bore fel gwynt, yn gweld hwn a'r llall yn y Deml. Mae gennyf amser i alw yno'n awr."

"Nac oes, neu byddwch yn hwyr i'r pwyllgor. Ni faddeuai Caiaffas i chwi am hynny . . . Dewch, brysiwch."

Wedi i'w wraig roi'i bendith ar ei wisg a mynd ymaith gyda Rwth, penderfynodd Joseff alw yn nhŷ Heman y Saer i brynu rhyw ddwsin o lestri pren tebyg i'r rhai a welsai yn nhŷ ei gymydog Joctan. Trigai'r saer yn Seion yn bur agos i'r Deml, a gallai felly alw heibio iddo ar ei ffordd i'r oed â Chaiaffas.

Dringodd yn hamddenol drwy'r ystrydoedd culion, poblog. O barch i'w wisg ysblennydd, camai llawer o'r dyrfa o'r neilltu i hyrwyddo'i ffordd, ond rhwystrai amryw ef, fel pe'n bwrpasol. Trigolion Jerwsalem oedd y rhai cyntaf, yn daeog o gwrtais i un o wŷr pwysig y Deml, gan wybod y dibynnent arno ef a'i fath am eu bywoliaeth; ond pobl o'r wlad, nifer mawr o'r Gogledd ag acen Galilea ar eu min, oedd y lleill. Yr oedd golwg herfeiddiol yn eu llygaid hwy, ac ni phetrusent rhag dangos eu casineb tuag at Sadwcead cyfoethog. Pe gwyddent ei neges yn y Deml, meddai Joseff wrtho'i hun, byddent yn cydio ynddo a'i lusgo ymaith i Gehenna: hwy oedd dilynwyr mwyaf selog y Nasaread hwn, ac ymfalchïent yn angerddol yn y ffaith mai o Galilea ac nid o Jwdea wawdlyd a thrahaus y deuai'r "proffwyd." Eu proffwyd hwy ydoedd: yn eu synagogau hwy a hyd eu ffyrdd hwy y dysgasai, ac onid iddynt hwy y datguddiodd yn gyntaf ac amlaf ei alluoedd gwyrthiol?—os oedd rhyw wir yn y storïau a glywsai, meddyliodd Joseff.

Ymlwybrodd ymlaen yn araf, gan ymddangos fel pe bai'r ffermwyr a'r pysgodwyr a'r marchnadwyr hyn islaw ei sylw, ond yr oedd ganddo, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef, ryw edmygedd slei tuag atynt. Hoffai wynebau didwyll ac iachus y pysgodwyr yn arbennig, gwŷr llydain, esgyrniog, a'u llygaid yn freuddwydiol a'u lleisiau'n ddwfn a thawel. Gwŷr anwybodus a gerwin, wrth gwrs, ond er pan welsai hwy gyntaf oll, yn fachgen gyda'i dad yma yn Jerwsalem ar Ŵyl y Pebyll neu