Tudalen:Yr Ogof.pdf/113

Gwirwyd y dudalen hon

Ŵyl y Pasg, gwyddai Joseff fod rhyw onestrwydd nerthol iawn wrth wreiddiau'r garwedd hwn. Trueni na thalent fwy o barch i'r Gyfraith yn lle rhedeg ar ôl rhyw "broffwyd" a fanteisiai byth a hefyd ar eu hygoeledd. A'r tro hwn—wel, yr oeddynt wedi meddwi'n lân. "Hosanna yn y goruchaf," wir!

Ceisiodd Joseff frysio ymlaen i ddianc o sŵn y cannoedd a ymwthiai drwy'r heol, ac yn arbennig o glyw'r gwerthwyr a'r cardotwyr croch ar fin y ffordd. Yr oedd y cardotwyr yn fwy lluosog nag arfer eleni, meddai wrtho'i hun. Ac yn fwy eofn, gan ddangos eu clefydau a'u doluriau'n ddigywilydd i bawb a âi heibio; ar bob tu estynnai breichiau a dwylo ymbilgar, llawer ohonynt yn ddim ond cnawd ac esgyrn, a dolefai deillion a chloffion a chleifion ym mhob man. Yr oedd anifeiliaid o bob math hefyd ar eu ffordd i'r Deml, ac uchel oedd lleisiau'r gyrwyr. Tyrfaoedd swnllyd, gwerthwyr a phedleriaid croch, cardotwyr cwynfanllyd, porthmyn a bugeiliaid a gyrwyr asynnod a chamelod—a fu erioed y fath ddwndwr a rhuthr ac arogleuon? Yr oedd yn dda gan Joseff gael troi i'r chwith tua thŷ Heman y Saer.

Synnodd pan ddaeth at y tŷ hwnnw. Bychain a thlawd oedd yr aneddau oll yn y rhan hon o'r ddinas; yn wir, nid oedd llawer ohonynt ond cytiau llwydion i gysgu ynddynt ar dywydd mawr, gan mai allan ar Fynydd yr Olewydd neu yn y dyffrynnoedd o amgylch y treuliai llawer o'r trigolion eu dyddiau a'u nosau. Ond yr oedd y tŷ hwn yn eang a chymharol lewyrchus, a goruwch-ystafell helaeth iddo. Yr oedd Heman, yn amlwg, yn saer a chrefftwr llwyddiannus, a chofiodd Joseff y câi waith pur reolaidd hefyd gan awdurdodau'r Deml.

Curodd wrth y glwyd a daeth hogyn tua deuddeg oed i'w hagor. Edrychodd y bachgen yn syn ac ofnus ar y wisg orwych o'i flaen; yna taflodd olwg brysiog tros ei ysgwydd, fel petai'n ofni i Joseff weld rhywun neu rywbeth o'i ôl.

"Syr?"

"Hwn yw tŷ Heman y Saer, onid e?" "Ie, Syr. A hoffech chwi weld fy nhad? Mi redaf i'r tŷ i'w nôl."

"Diolch, 'machgen i."

Camodd Joseff drwy'r glwyd i'r cwrt bychan ysgwâr tu allan