Tudalen:Yr Ogof.pdf/114

Gwirwyd y dudalen hon

i'r tŷ. Yr oedd yn dŷ hardd a chadarn a'r grisiau cerrig i'r oruwch—ystafell yn gymesur bob un, nid fel petaent wedi'u taflu rywsut—rywsut yn erbyn y mur fel mewn llawer tŷ.

"O, dyma ef, Syr.'

Gwelai Joseff ddau ddyn wrth ddrws y tŷ. Gŵr ifanc tenau a chyflym a'i wallt yn hir oedd un, ac adnabu Joseff ef ar unwaith. Y dyn gorwyllt a boerodd arno ef a'r hen Falachi yng nghyntedd y Deml. Yr oedd y llall yn hŷn ac yn ymddangos yn araf a phwyllog ei ffordd. Edrychodd y ddau'n syn pan welsant Joseff yn y cyntedd, ac yna troes y gŵr ifanc yn ôl i'r tŷ, fel petai wedi anghofio rhywbeth. Aeth Joseff ymlaen at y llall.

"Heman y Saer?"

"Ie, Syr.'

"Y mae arnaf eisiau prynu hanner dwsin o ddysglau pren. Gwelais rai o'ch gwaith chwi yn nhŷ cyfaill imi.'

"Dewch i mewn, Syr."

Dilynodd y saer i'r tŷ ac yna drwy ddrws ar y dde i mewn i ystafell eang a ddefnyddid, yn amlwg, fel gweithdy.

"Esgusodwch fi, Syr. Af i nôl rhai i chwi gael eu gweld." A brysiodd Heman ymaith.

Llithrasai'r bachgen i mewn i'r ystafell o'u blaenau, ac eisteddai'n awr ar y llawr yn naddu darn o bren a ddaliai'n berffaith lonydd drwy glymu bodiau'i draed yn dynn am ei flaen.

"Beth yw d'enw, 'machgen i?"

"Ioan Marc, Syr."

"Am fod yn saer fel dy dad, 'rwy'n gweld."

"Ydwyf, Syr."

"Y dyn ifanc 'na a oedd gyda'th dad funud yn ôl—pwy oedd ef?"

Gwelai olwg ochelgar yn llygaid y bachgen.

"Cwsmer, Syr."

"O!"

"Pam yr oeddech chwi'n gofyn, Syr?"

"Dim ond imi feddwl fy mod yn ei adnabod, ond efallai . . . O, dyma dy dad."

Daeth Heman yn ei ôl â llond ei freichiau o ddysglau pren o wahanol ffurf a maint. Rhoes hwy ar fwrdd yng nghongl yr ystafell, ac edrychodd Joseff gydag edmygedd arnynt.