Tudalen:Yr Ogof.pdf/116

Gwirwyd y dudalen hon

Siaradai Heman yn gyflym, gan ymddangos yn anesmwyth ac yn dyheu am droi'n ôl i'r tŷ.

"Cawsoch hwyl wrth ei weld, y mae'n siŵr, Heman!"

"Hwyl, Syr?'

"Ie, wrth weld tipyn o saer o Nasareth yn cymryd arno farchogaeth fel Brenin i mewn i Jerwsalem."

"Nid tipyn o saer yw Iesu o Nasareth, Syr." Daeth y geiriau'n araf o enau'r saer ac edrychai'n eofn ym myw llygaid Joseff fel y siaradai. "Gwn nad wyf fi deilwng i ddatod ei sandalau ef. . . Prynhawn da, Syr."

Brysiodd Joseff i fyny i'r dde a thros y Bont i'r Deml. Gwyddai fod prydlondeb yn rhinwedd a bwysleisiai Caiaffas mewn eraill. Dim ond gan yr Archoffeiriaid eu hunain yr oedd hawl i fod ar ôl, a chadwai Annas a Chaiaffas y Sanhedrin i aros wrthynt bob tro. Dim ond er mwyn clywed y clebran yn tawelu a gweld pawb yn codi'n barchus i'w cyfarch, yr oedd Joseff yn sicr. Hm, dyna'i feddwl beirniadol yn mynnu ei amlygu'i hun eto! Ond heddiw dilynai gyngor Esther a chymryd arno lyfu llaw Caiaffas. Hi a oedd yn iawn, efallai. Dyma ef yn tynnu at ei drigain oed a heb fod yn neb o bwys yn y Sanhedrin. Bu'n rhy anfynych o lawer yn y cyfarfodydd drwy'r blynyddoedd, a phan âi yno, eisteddai'n dawel a diog heb fawr ddim diddordeb yn y trafodaethau. Yr oedd ar fai, fe wyddai, ond byth er pan gododd yn fyrbwyll i ddadlau tros ystwytho tipyn ar drefniadau'r dreth y flwyddyn honno pan fethodd y cynhaeaf, bodlonodd ar frathu'i dafoda brysio'n ôl i dawelwch Arimathea. Ei gyfoeth—nid ei ddaliadau na'i frwdfrydedd, yn sicr!—a roddai sedd iddo yn y Sanhedrin. Ond o hyn ymlaen, yn arbennig gan fod Esther yn benderfynol o fyw yn Jerwsalem, codai'i lais ym mhob cyfarfod ac enillai'i le fel un o flaenoriaid y Cyngor. Fel y dringai'r grisiau o Gyntedd y Cenhedloedd, gwelai fod tyrfa wedi ymgasglu ar y Rhodfa uwchben i wrando ar un o'r doctoriaid yn egluro'r Gyfraith. Un o'r doctoriaid? Nage. Clywodd rai a frysiai heibio iddo yn dweud yn eiddgar, "Y Nasaread! Y Nasaread!" Edrychodd yn syth o'i flaen, ond gwrandawai'n astud ar bob gair.

"Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr!" meddai'r llais, a chrynai'r dicter ynddo.

Trwy gil ei lygad gwelai Joseff fod amryw o Ysgrifenyddion