Tudalen:Yr Ogof.pdf/117

Gwirwyd y dudalen hon

a Phariseaid ar gwr y dyrfa a bod y bobl wrth eu bodd yn clywed y rabbi o Nasareth yn eu gwawdio fel hyn troent i wenu tuag atynt ac ar ei gilydd.

"Canys tebyg ydych chwi," aeth y llais ymlaen, "i feddau wedi'u gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid."

Yr oedd gwên slei yn llygaid Joseff fel y dringai'r grisiau o farmor ac y brysiai drwy Borth Nicanor ac ymlaen heibio i'r allor fawr tu draw iddo. "Beddau wedi'u gwynnu!" Hoffai weld wynebau rhai o Phariseaid y Sanhedrin pan adroddid yr hanes wrthynt! "Beddau wedi'u gwynnu"! Edrychai ymlaen at weld Esras ac Isaac.

Cafodd hwynt wrth ddrws yr ystafell—bwyllgor. Do, proffwydasai Esther y gwir: yr oedd y ddau wedi'u gwisgo yn eu gorau.

"Yr oeddwn i'n ofni fy mod i ar ôl," meddai wrthynt, wedi iddynt gyfarch ei gilydd.

"Newydd gyrraedd yr ydym ninnau," meddai Isaac, a fuasai'n loetran yno am hanner awr.

"Pa ffordd y daethoch chwi i mewn i'r Deml, Joseff?" gofynnodd Esras.

"Drwy Gyntedd y Gwragedd."

"A ydyw'r Nasaread 'na ar y Rhodfa o hyd?"

"Ydyw, a thyrfa fawr yn gwrando arno. Aç yr oeddynt wrth eu bodd."

"O?"

"Oeddynt, yn ei glywed yn sôn amdanoch chwi'r Phariseaid." Arhosodd Joseff ennyd i fwynhau'r ofn yn eu llygaid.

"Beth a ddywedodd ef?" Daeth y cwestiwn o enau'r ddau ar unwaith.

"Dim ond dweud eich bod chwi fel beddau wedi'u gwynnu." "Beddau wedi'u gwynnu?" Ni ddeallai Esras.

"Yn deg oddi allan, ond oddi mewn yn llawn o esgyrn meirwon a phob aflendid. 'Gwae chwi ragrithwyr!' meddai."

Er ei fod mor dew, yr oedd Esras yn ŵr tanllyd. Caeodd ei ddyrnau'n chwyrn a cherddodd o gwmpas yn wyllt, fel petai ar gychwyn tua'r Rhodfa i hanner lladd y rabbi o Nasareth. Ond ni wnaeth Isaac ond ysgwyd ei ben yn ddwys gan lusgo'r