Tudalen:Yr Ogof.pdf/118

Gwirwyd y dudalen hon

sŵn defosiynol o'i wddf. O'r ddau, meddai Joseff wrtho'i hun, hwn oedd y gwir Pharisead, gŵr dwys ond milain, oerllyd fel pysgodyn ond ag iddo bigiad sarff wenwynig ni chynhyrfid hwn gan ddim, ond pan ddôi cyfle i ladd ei elyn rhoddai'i droed ar ei wddf—gan lafar-ganu salm. Troes at Joseff yn awr, gan ddywedyd,

"Ni chaiff ef fedd wedi'i wynnu! Mae'r tanau sy'n llosgi'r ysbwrial yng Nghwm Gehenna yn hwylus weithiau!" A gwenodd ar Esras.

"Hawdd i chwi wenu, Isaac," meddai hwnnw, a ddaliai i gamu'n anesmwyth yn ôl ac ymlaen. "Yr ydych chwi'n byw i lawr yma yn Jwdea, nid i fyny acw yng Ngalilea. Mae'n hawdurdod ni'n lleihau bob dydd yno. Pa bryd oedd hi? O ie, bythefnos i heddiw. Tri hogyn yn gweiddi Esras Dew! ar fy ôl i yng Nghapernaum acw. Meddyliwch, mewn difrif! Ar ôl Cynghorwr sydd wedi bod ar y Sanhedrin ers deng mlynedd! A beth yw'r achos? Y Creadur yna a'i ddamhegion a'i wyrthiau.'

"Gwell inni fynd i mewn i aros, gyfeillion," meddai Joseff, gan symud tua drws yr ystafell—bwyllgor.

"Y?" Yr oedd braw yn wyneb Esras.

"Na," meddai Isaac, "y mae'n well inni aros nes daw'r Archoffeiriad."

Nodiodd Joseff, gan gofio'i benderfyniad i dalu pob gwrogaeth i Gaiaffas.

"Y mae'n glyfar, nid oes dim dwywaith am hynny," meddai Esras.

"Y Nasaread hwn?"

"Ie. Rhy glyfar hyd yn oed i Fathan! Ac os oes un Pharisead yn deall y gyfraith o Alffa i Omega, Mathan yw hwnnw."

"Beth a ddigwyddodd?" gofynnodd Joseff.

"Pan aeth Mathan ac eraill i'r Rhodfa i geisio'i faglu," atebodd Esras. Pwy roes awdurdod i ti i wneud y pethau hyn yn y Deml?' gofynnodd Mathan iddo, gan obeithio y dywedai mai ef oedd y Meseia a'i fod uwchlaw awdurdod y Deml a Rhufain a phawb. Ond yn lle ateb fe ofynnodd yntau gwestiwn i Fathan. Bedydd Ioan,' meddai, ai o'r nef yr ydoedd ai o ddynion?' 'Taech chwi'n gweld wyneb yr hen Fathan! Os dywedai O ddynion,' fe fyddai'r dyrfa wedi