Tudalen:Yr Ogof.pdf/120

Gwirwyd y dudalen hon

Nodiodd yn gyfeillgar ar y tri ohonynt, ac wedi i un o'r offeiriaid agor y drws yn wasaidd iddo, dilynasant ef i mewn i'r ystafell. Eisteddasant ar y clustogau gorwych a oedd hyd y llawr, a dechreuodd Esras ar unwaith ailadrodd hanes Mathan yn ceisio baglu'r Nasaread.

"Mi glywais y stori," meddai Caiaffas. "Fe ddaeth Mathan i roddi'r hanes imi." Yr oedd gwên yng nghornel ei lygaid wrth iddo chwanegu, "Yr oeddwn i'n meddwl eich bod chwi'r Phariseaid yn wŷr cyfrwys!"

Ysgydwodd Esras ei ben yn drist, a gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddfi ddangos ei werthfawrogiad o ysmaldod yr Archoffeiriad. Syllodd Joseff yn freuddwydiol ar y nenfwd hardd, lle troellai ambell linell o aur ar y gwyndra glân. Edrych i fyny felly a wnâi bob amser pan geisiai ymddangos yn ddifater, rhyw gymryd arno nad oedd neb na dim o'i amgylch yn bwysig iawn iddo. Ond yr oedd cyffro yn ei galon. Onid oedd ef yn un o dri a gâi'r fraint o gyd—eistedd â'r Archoffeiriad mewn pwyllgor cyfrinachol fel hyn yn y Deml? Nid oedd y pwyllgor yn un pwysig, efallai, ac ni roddai'r ddau Pharisead hyn, Esras dew ac Isaac ferchedaidd, urddas arno, ond pwysig neu beidio, yr oedd ef yn un o dri yng nghwmni'r Archoffeiriad. Lwc iddo ddilyn cyngor Esther a rhoi'r urddwisg amdano.

"Nid oes amser i'w golli, f'Arglwydd," meddai Esras. "Yr oedd yn tynnu tyrfaoedd i fyny acw yng Ngalilea, ac yn awr dyma'r un peth yn digwydd yn Jerwsalem ac yn y Deml sanctaidd ei hun! A'r bobl—yma yn y Deml f'Arglwydd! —yn gwawdio'u harweinwyr, yn chwerthin am ben Mathan, un o'n Cynghorwyr hynaf a mwyaf defosiynol!"

Nodiodd yr Archoffeiriad yn ddwys iawn, ond nid ymddangosai'n bryderus ei feddwl. Yr oedd gan Annas a Chaiaffas, meddai Joseff wrtho'i hun, ryw gynllun i roi diwedd ar ffolineb a haerllugrwydd y saer o Nasareth. Tybiai Joseff hefyd mai rhywbeth a wisgai'n hwylus ar ei wyneb oedd dwyster Caiaffas, ond fe'i beiodd ei hun ar unwaith am goleddu'r fath syniad. Ei ddyletswydd ef oedd parchu'r Archoffeiriad a chadw'i addewid i Esther.

"Ydyw," meddai Caiaffas, "y mae'n rhaid inni roi taw buan ar y rabbi hwn. Ac fe wnawn."

"Y mae gennych ryw gynllun, f'Arglwydd?" gofynnodd Esras.