Tudalen:Yr Ogof.pdf/123

Gwirwyd y dudalen hon

"Un neu ddau, f'Arglwydd?" gofynnodd yn dawel.

"Wel, amryw, ynteu. Felly y mae'n rhaid inni ei ddal heb iddynt hwy wybod. Yn hwyr y dydd neu yn y nos.'

"Ie, y nos a fyddai orau," meddai Esras.

"Ie, y nos," cytunodd Isaac.

"Ai'r Pasg sanctaidd heibio'n dawel ac esmwyth wedyn, ac ni fyddai diferyn o waed Iddewig ar waywffon Rufeinig. Y mae yma rai cannoedd o filwyr Rhufeinig, fel y gwyddost ti, a phe dôi ymrafael . . . " Ysgydwodd yr Archoffeiriad ei ben yn ddwys.

"Rhaid, rhaid osgoi cynnwrf," sylwodd Isaac eto, ac yr oedd rhyw dristwch mawr yn ei lygaid.

"Gwyddom fod rhai sydd yn y ddinas yn chwilio am ryw esgus i daro yn erbyn y Rhufeinwyr. Y mae rhai ohonynt yn wŷr onest a meddylgar, Iddewon i'r carn, a hawdd deall eu teimladau wrth weld eu gwlad annwyl dan iau'r estron."

"Ydyw, wir," meddai Esras. "Ydyw, hawdd iawn." Gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddf.

Gwyddai Joseff fod Caiaffas yn casáu gwladgarwyr Plaid Ryddid ac yr hoffai weld Rhufain yn croeshoelio pob un ohonynt. Pam yr oedd yn eu canmol fel hyn, ynteu? Cofiodd i'r Jwdas hwn fod yn perthyn iddynt unwaith, ac efallai y gwyddai Caiaffas fod ganddo gydymdeimlad a hyd yn oed gysylltiad â hwy o hyd.

"Ond nid yw hynny'n wir am y rhelyw ohonynt," chwanegodd yr Archoffeiriad. "Cynnwrf er mwyn cynnwrf a hoffent hwy. A gŵyr Rhufain sut i ddiffodd tân mewn crinwellt."

"Gŵyr, fe ŵyr Rhufain sut i sathru crinwellt," sylwodd Esras.

"Tân mewn crinwellt!" Edrychodd Isaac ar yr Archoffeiriad ag edmygedd mawr. "Tân mewn crinwellt!" meddai drachefn, fel petai'n cael blas ar farddoniaeth y frawddeg.

"Wrth gwrs, fe dalwn iti." A gwenodd Caiaffas ar y dieithryn.

Nodiodd y gŵr ifanc, ond nid oedd fel petai'n gwrando. Yr oedd yn amlwg i Joseff nad y wobr a'i hudodd yno.

Hoffai olwg y dyn, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef. Y llygaid braidd yn wyllt, efallai—fel rhai ei fab Beniwda, o ran hynny ond yr oeddynt mor glir ac onest â'r dydd. Yr oedd