Tudalen:Yr Ogof.pdf/126

Gwirwyd y dudalen hon

"Ni fydd yr un—camgymeriad?"

"Na fydd, f'Arglwydd. Arweiniaf hwy i'r fan, ac yna, rhag ofn y bydd hi'n dywyll o dan y coed ac amryw o'i ddilynwyr gydag ef, af ato a'i gusanu. Y gŵr a gusanaf . . ."

"Fydd y Nasaread. Campus. Campus."

"Ond bydd yn well i'r plismyn a'r milwyr fod yn fintai gref, f'Arglwydd. Mae pysgodwyr Galilea yn gallu ymladd. Gwn fod un ohonynt yn gleddyfwr medrus."

Gwenodd Caiaffas. "Gofalwn am hynny," meddai.

Tybiai Joseff, gan mor rwydd ei eiriau, fod y cynllun yn glir ym meddwl y gŵr ifanc cyn iddo ddyfod atynt. Pam y gwnâi hyn, tybed? Er mwyn y wobr wedi'r cwbl, efallai. Câi dri chan darn o arian, ac os oedd yn fargeiniwr deheuig, fwy na hynny.

"Dywedais y talwn iti."

Daliai Caiaffas i wenu arno.

Nodiodd y dyn—eto fel petai'r peth yn ddibwys iddo. "Rhown yr arian i bennaeth y plismyn, a chei hwy ganddo ef nos yfory."

"O'r gorau, f'Arglwydd."

Moesymgrymodd, ar fin troi ymaith. Rhythodd Esras ac Isaac arno.

A oedd hi'n bosibl fod Iddew na fanteisiai ar gyfle i wneud bargen? A oedd y dyn yn ei synhwyrau?

"Cei ddeg darn ar hugain o arian."

Rhuthrodd bys bach Esras tua'i lygad de i chwilio am lychyn dychmygol a aethai iddo, a darganfu Isaac fod llinellau diddorol yn gweu drwy'i gilydd ar gefn ei law. Gwyddai Joseff mai cuddio'u difyrrwch yr oeddynt. Deg darn ar hugain!

Gwyliodd Joseff y dyn ifanc. Gwelodd wrid yn llifo i'w ruddiau a dig yn fflachio, dro, i'w lygaid. Er hynny, brathodd ei dafod, gan nodio eto.

"Diolch, f'Arglwydd."

Tynnodd Esras ei fys o'i lygad i rythu arno eilwaith. Yr oedd ceg Isaac hefyd yn agored.

"Campus. Campus. Nos yfory felly." A chanodd Caiaffas y gloch arian a oedd ar fwrdd bychan gerllaw.

"Nos yfory, f'Arglwydd."

Tybiai Joseff fod rhyw lewych yn llygaid y gŵr ifanc, fel petai ef, ac nid Caiaffas, a enillasai'r dydd.

"Wel, dyna hwn'na," meddai'r Archoffeiriad, wedi i'r drws gau ar ei ôl. Cododd pawb.