Tudalen:Yr Ogof.pdf/129

Gwirwyd y dudalen hon

blaenllaw. Gwelodd amryw o'r prif offeiriaid ac o'i gyd-Gynghorwyr yn ystod y dydd a chafodd gyfle droeon i ysgwyd ei ddyrnau. Dim synnwyr mewn rhoi'r fath ryddid i'r Nasaread hwn, meddai wrthynt, dim synnwyr o gwbl. Ond nid oedd raid iddynt bryderu. Yr oedd cynllun ar waith a rôi daw ar y dyn unwaith ac am byth. Na, ni allai ddweud ychwaneg am ddiwrnod neu ddau, ond caent weld, caent weld. A nodiodd yn gall, a'i lygaid yn culhau.

Dringodd y grisiau i'w ystafell wely yn gynnar iawn, rhag ofn y deuai un o negeswyr yr Archoffeiriad i'w alw i'r Sanhedrin gyda'r wawr y bore wedyn. Suddodd yn foddhaus i'r gwely cysurus, gan benderfynu ysgwyd ei ddyrnau yn y Sanhedrin ei hun drannoeth os câi gyfle. Â'i i weld Jafan yr adeiladydd hefyd ynglŷn â chodi'r tŷ yn Jerwsalem: gallai ef a'i weithwyr gychwyn ar y gwaith pan fynnent. Gwenodd Joseff yn fodlon ar y lloergan a ffrydiai i mewn drwy rwyllwaith y ffenestr, ac yna syrthiodd i gysgu.

Deffrowyd ef ymhen rhai oriau gan guro ar y drws. Yr oedd hi tua hanner nos.

"Ie?"

"Y mae yma negesydd oddi wrth yr Archoffeiriad, Syr," meddai llais Abinoam. "Y Sanhedrin yn cyfarfod ar unwaith.'

"Ymh'le?"

"Yn nhŷ'r Archoffeiriad, Syr.'

"O'r gorau, Abinoam. Af yn syth yno, dywedwch wrth y negesydd."

Gwisgodd Joseff yn frysiog, ond cyn troi o'r ystafell, safodd ennyd wrth y ffenestr i weld gogoniant y lloer yn goleuo'r ddinas a Mynydd yr Olewydd. Gwelai fagad o bobl â lanternau a ffaglau ganddynt yn dringo o ddyffryn Cidron, ac wrth iddo wrando'n astud, clywai dramp eu traed ar risiau Rhufeinig y ffordd. Milwyr. A'r Nasaread yn eu gofal, yn fwy na thebyg. Fe lwyddodd cynllun Caiaffas, felly.

Pan gyrhaeddodd blas yr Archoffeiriad a dringo'r grisiau o farmor amryliw tua cholofnau urddasol y porth, gwelai fod y drws yn agored a thyrrau o Gynghorwyr yn sefyllian yn y porth eang. Grwgnach yr oeddynt.

"Mi fûm i'n teithio drwy'r dydd," meddai un, gŵr o'r Deau. "Cychwyn yn y bore bach ac edrych ymlaen am noson dawel o orffwys heno. Wedi blino'n lân."