Tudalen:Yr Ogof.pdf/131

Gwirwyd y dudalen hon

nac unman arall heb i'r hen Annas fod â'i fys ynddo. Ers tros ugain mlynedd yn awr ef oedd yr Archoffeiriad: eraill a wisgai'r effod o wyn a glas a phorffor ac ysgarlad, ond y tu ôl iddynt yr oedd cynlluniau a chyfrwystra Annas. Llwyddodd i osod rhai o'i feibion yn y swydd ac i reoli drwyddynt, ac yn awr teyrnasai drwy'i fab yng nghyfraith, Caiaffas.

"He!" Taflodd Esras olwg o'i amgylch rhag ofn bod rhywun yn ei glywed, ac yna sibrydodd, "Mae Caiaffas yn 'i deall hi! Nid yw'n gwneud dim heb ymgynghori ag Annas, ond y mae'n cael ei ffordd ei hun, er hynny."

Yr oedd hynny'n wir. Cadw'r hen Annas yn ddiddig a wnâi Caiaffas, nid dilyn pob awgrym a mympwy o'i eiddo fel y gwnaethai'i flaenoriad yn y swydd. Ond gofalai gymryd arno bob gafael mai ufuddhau i orchmynion a dymuniadau'i dad yng nghyfraith yr oedd. A daliai Annas i gredu mai yn ei ddwylo ef yr oedd yr awenau o hyd. Oedd, yr oedd Caiaffas yn "ei deall hi"; ped ymddangosai'n rhy annibynnol, byddai'i ddyddiau fel Archoffeiriad wedi'u rhifo a châi Annas ffordd i roi rhywun mwy hydrin yn ei le.

Gwelai Joseff fod yr hen Falachi'n mynd o gwmpas yr ystafell i dorri'r newydd i'r aelodau. Dangosai wynebau pawb eu bod wrth eu bodd, a theimlai'r gŵr o Arimathea'n falch iddo gael cyfran fechan yn y cynllun i ddal y Nasaread. Yr oedd yn wir fod gan y rhan fwyaf ohonynt ryw reswm personol dros ei ddifodi—sawl un ohonynt a oedd heb berthynasau neu gyfeillion yn gwerthu anifeiliaid neu'n cyfnewid arian yn y Deml?—ond ar wahân i hynny, yr oedd y dyn yn beryglus, yn amharchu'r Deml, yn gyfeillgar â phublicanod a phechaduriaid, yn cynhyrfu meddwl y bobl, a hyd yn oed yn hawlio bod yn Feseia. Gellid deall ofergoeledd rhyw hen gaethwas fel Elihu a dyhead dyn sâl fel Othniel, ond pan glywai rhywun storïau am bobl ddiwylliedig a meddylgar yn talu sylw i'r creadur . . .

"Ni fydd ei garcharu'n dda i ddim, Joseff," meddai Esras.. "Byddai'i ddilynwyr yn sicr o godi twrw ac o geisio'i ryddhau.'

Cytunodd Isaac drwy wneud sŵn yn ei wddf.

"Rhaid dangos ein bod o ddifrif," meddai Joseff. "Mae'r dyn wedi cael gormod o ryddid yn barod. Ac wedi manteisio ar hynny. Fe gwyd dwsinau o rai tebyg iddo hyd y wlad 'ma os na sathrwn arno."