Tudalen:Yr Ogof.pdf/133

Gwirwyd y dudalen hon

Daeth murmur maddeuol o blith y Cynghorwyr.

"Cyfeiriaf at achos Iesu fab Joseff, y proffwyd o Nasareth." "Hy! Proffwyd!" meddai'r hen Falachi, ac ymledodd sibrydion dig drwy'r ystafell.

"Y mae miloedd yn credu hynny, yn arbennig yng Ngalilea. Yn wir, fel y gwyddoch chwi, cred llawer o bobl y Gogledd mai ef yw'r Meseia. . ." Arhosodd Caiaffas ennyd i roi cyfle i amryw godi dwylo ffiaidd. "Ef yn eu barn hwy sydd i arwain y genedl o'i chaethiwed! Ef sydd i eistedd ar orsedd Dafydd! Ef a yrrwyd gan Dduw i fod yn Frenin ar Israel! Ef yw Crist, mab y Duw byw!"

Gwenodd Isaac ar Joseff: gwyddai Caiaffas sut i gyffroi'r Sanhedrin. Yr oedd amryw ohonynt ar eu traed a chlywid ar bob tu y dychryn a greai'r fath gabledd: "Gorsedd Dafydd!" "Brenin ar Israel!" "Mab Duw!"

"Clywsoch o dro i dro adroddiadau'n hysbïwyr am y dyn hwn. Y mae'n amlwg fod rhyw gymaint o allu meddygol ganddo, ond defnyddiodd y gallu hwnnw i borthi ofergoeledd pobl anwybodus. Buom ni'n dyner ac amyneddgar tuag ato, ac ystyried y sen a'r dirmyg a daflodd ef atom ac at weision crefydd mewn llawer man. Y mae'n wir inni geisio'i ddal droeon o'r blaen yma yn Jerwsalem—yr hydref diwethaf yng Ngŵyl y Pebyll, er enghraifft—a chlywsom rai'n ein beirniadu am fethu'i daflu i un o'r celloedd sydd yn y graig o dan y plas hwn. Y mae'n hawdd ateb y feirniadaeth yna." Troes Caiaffas ei olwg tua'r fan lle'r eisteddai Joseff, gan anelu'i eiriau at y dwsin o Phariseaid a ddigwyddai fod gyda'i gilydd yno yr oedd amryw ohonynt yn Selotiaid eiddgar o ran ysbryd er na pherthynent, wrth gwrs, i Blaid Ryddid. "Y mae'n gwlad a'i phobl yn rhy annwyl inni i roi cysgod o esgus i filwyr Rhufain eu clwyfo hwy. Pe daliasem y Nasaread hwn yn un o Gynteddau'r Deml yn ystod Gŵyl y Pebyll neu yn ystod yr wythnos hon, beth fuasai'r canlyniad? Ni all unrhyw un a freintiwyd â dychymyg ond rhwygo'i ddillad mewn arswyd wrth feddwl am y peth. Y mae'r gŵr hwn yn boblogaidd, a gwyddom y codai'r pererinion, hyd yn oed yng nghynteddau sanctaidd y Deml, eu dyrnau o'i blaid. Y mae Gwersyll Antonia'n gryf a'i filwyr yn lluosog—ac yn ddidrugaredd weithiau. Trefn a thawelwch—dyna a fyn y Rhufeinwyr, ac i'w sicrhau y mae min ar eu cleddyfau a'u