Tudalen:Yr Ogof.pdf/135

Gwirwyd y dudalen hon

"Hm. A gyffesodd y Nasaread ei droseddau?"

"Naddo, f'Arglwydd. Y mae'n ŵr ystyfnig. Gofynnodd f'Arglwydd Annas iddo am ei athrawiaeth a'i ddisgyblion."

"A'i ateb?"

"Aeth yn hy ar f'Arglwydd Annas, a bu'n rhaid inni ei geryddu. Dywedodd iddo lefaru'n agored yn y synagogau ac yn y Deml, ac os mynnai f'Arglwydd Annas wybod beth a ddysgai, yna dylai holi'r rhai a'i clywsai. Pam y gofynni i mi? Gofyn i'r rhai a'm clywsant.'—dyna'i eiriau f'Arglwydd."

"Ewch ymlaen, Amnon."

"Nid oes mwy i'w adrodd, f'Arglwydd. Dygasom ef yma.

"Hm. Fe droes y saer huawdl yn ŵr tawedog felly. O'r gorau. Efallai y bydd wynebau'r Sanhedrin yn rhyddhau'i dafod gwyddom iddo dalu llawer teyrnged inni, yn Phariseaid a Sadwceaid ac Ysgrifenyddion, pryd na allem fod yn bresennol i ddiolch iddo! A ydyw'r Rabbi Tobeias wrthi'n holi'r tystion, Amnon?"

"Ydyw, f'Arglwydd, yng ngŵydd y carcharor."

"Da iawn. Yr ydym yn aros i weld y Meseia 'o Nasareth." Moesymgrymodd Amnon cyn cerdded yn filwrol tua'r drws. Troes Caiaffas at y Cyngor.

"Dylwn egluro imi alw nifer o dystion yma," meddai, "a rhoddais y gwaith o'u holi hwy i'n Prif Ysgrifennydd parchus a galluog, y Rabbi Tobeias. Gofynnais iddo ddewis rhai ohonynt i'w dwyn o'ch blaen."

Daeth y Rabbi Tobeias i mewn ar y gair. Hen ŵr tal a thenau oedd ef â barf hir ond â'i ben yn foel o dan ei gap bychan hirgrwn, a cherddai'n gyflym, gan edrych i lawr ar ei draed fel pe i wylio'u camau byrion. Gwenodd amryw ar ei gilydd, oherwydd yr oedd yr hen frawd yn enwog am ddweud a gwneud pethau anghyffredin ac annisgwyl. Cerddai o amgylch y Deml a'i lygaid gloywon, suddedig yn gwenu ar bawb ond heb adnabod fawr neb, a pharablai ag ef ei hun drwy'r dydd, gan aros yn sydyn weithiau i grychu'i drwyn a tharo'i law ar ei dalcen mewn penbleth fawr. Dilynid ef gan fechgyn direidus hyd heolydd Jerwsalem, a manteisient ar bob cyfle i ofyn cwestiynau iddo am fanion Deddf y Rabbiniaid, gan gymryd arnynt wrando'n ddwys ac eiddgar ar ei lais main yn esbonio'r gyfraith iddynt. Pam na allai hen ŵr