Tudalen:Yr Ogof.pdf/136

Gwirwyd y dudalen hon

wisgo'i wallt gosod ar y Sabath? Gan na ellid bwyta'r wy, a oedd modd perswadio iâr i beidio â dodwy ar y Sabath? Gan y gwaherddid i un gario dim ar y Sabath, pam y câi hwn-a-hwn lusgo'i goes bren i'r Deml? Rhoddai'r hen frawd ystyriaeth fanwl i'w holl gwestiynau, ac â'i law anesmwyth ar ei dalcen a'i drwyn yn crychu rhwng pob brawddeg, eglurai ac athrawiaethai ar fin yr heol fel petai'n sefyll o flaen dosbarth yn y Coleg. Ond er ei holl wendidau, yr oedd y Rabbi Tobeias yn fawr ei barch yn y Deml ac yn y ddinas ac, yn wir, drwy'r wlad. Cofiai pawb am ei dlodi cynnar, amdano'n gweithio ddydd a nos, yn fachgen, fel gwneuthurwr sandalau, i gasglu arian i fynd i'r Coleg yn Jerwsalem; amdano'n cerdded bob cam o Ogledd Galilea i'r brifddinas i astudio yno; am y blynyddoedd caled pan oedd yn fyfyriwr yn y dydd ac yn wneuthurwr sandalau yn y nos; am ei esboniadau disglair ar y Gyfraith; ac yn bennaf oll, pan wnaed ef yn Brifathro'r Coleg yn Jerwsalem, am y modd y talai o'i boced ei hun dreuliau ugeiniau o fyfyrwyr tlawd. Oedd, er gwaethaf ei odrwydd bellach, yr oedd y Rabbi Tobeias yn uchel ei barch, a disgwyliasai llawer mai ef fuasai'n Archoffeiriad ar ôl y pumed o feibion Annas. Ond anghofient fod gan Annas fab yng nghyfraith.

"Wel, Barchusaf Rabbi?"

"Wyddwn i ddim fod y fath benbyliaid i'w cael yn y byd, f'Arglwydd Gaiaffas."

Gwenodd pawb, ond ymddangosai Caiaffas braidd yn ddiamynedd. Nid oedd hwn yn amser i fod yn ddigrif.

"Beth a fu?"

"Tystion! Un yn dweud un peth, y llall beth gwahanol, yna'r trydydd yn gwrthddweud y ddau. Geiriau yn llifo fel dŵr, f'Arglwydd Caiaffas, ond twll mawr yng ngwaelod pob ystên. Nid oes un ohonynt yn gallu meddwl yn glir am hanner munud, f'Arglwydd, a'r unig gasgliad y gallaf fi ei dynnu yw mai dyfod yma i geisio ennill ychydig o arian am . . . "

Sylw cywir ac onest—ond un braidd yn anffodus, gan mai Caiaffas a logasai'r tystion hyn. Torrodd yr Archoffeiriad ar draws parabl cyflym yr hen ddoethor. "Gresyn hynny, Barchusaf Rabbi. Ond y mae'n sicr fod rhai ohonynt â'u tystiolaeth yn werthfawr?"

"Dim ond dau, f'Arglwydd, y ddau'n dweud iddynt glywed . . . "