carcharor gyntaf. Yr oeddwn i wrth fy mwrdd yng Nghyntedd y Cenhedloedd . . . " "Yn cyfnewid arian."
"Yn cyfnewid arian, Barchusaf Rabbi, pan ddaeth y carcharor yno . . .
"A cheisio gyrru'r gwerthwyr a'r cyfnewidwyr arian oddi yno â fflangell. Gwyddom yr hanes hwnnw. Beth a ddywedodd ef am y Deml sanctaidd—dyna sydd gennym yn awr."
"Gan ei fod yn gwneud y pethau hyn fel un ag awdurdod ganddo, gofynnodd y bobl iddo am arwydd, a dywedodd yntau, Barchusaf Rabbi, ei fod am . . .
"Y mae arnom eisiau'r geiriau fel y llefarodd ef hwy. Beth yn union a ddywedodd?"
"Dweud ei fod am ddinistrio'r Deml ac am . . .
"Ie, mi wn, ond beth oedd ei eiriau ef ei hun? Beth yn union a ddywedodd?"
""Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.'—dyna'i eiriau, Barchusaf Rabbi."
Cododd Caiaffas oddi ar ei orsedd. "Dinistrio'r Deml!" meddai. "A glywodd neb erioed y fath gabledd? A'i hadeiladu drachefn mewn tridiau! Dim ond galluoedd y Fall a allai gyflawni'r fath orchwyl. Deuai Satan a llengoedd o ysbrydion drwg i roddi maen ar faen wrth ewyllys Iesu fab Joseff o Nasareth." Troes tuag at y carcharor. "Clywaist y dystiolaeth hon i'th erbyn, Iesu fab Joseff. Beth a ddywedi?"
Ar amnaid eu pennaeth, gwthiodd y plismyn y Nasaread gam neu ddau ymlaen yn ddiseremoni, ac yna ciliodd y tri'n ôl tua mur yr ystafell. Safai'r carcharor yn awr ar y chwith i'r llwyfan, yn wynebu'r hanner-cylch o Gynghorwyr. Edrychai'n unig iawn, ond yr oedd ei ben yn uchel a'i lygaid yn wrol.
"Beth a ddywedi?" gofynnodd Caiaffas eilwaith. Eithr nid atebodd ef ddim.
Curai calon Joseff yn wyllt o'i fewn, ac edrychodd o'i gwmpas i weld a deimlai'r rhai o'i amgylch fel y teimlai ef. Disgwyliai ganfod rhyw syndod mawr yn eu llygaid, rhyw rythu ofnus tuag at y gŵr ifanc unig a thawel hwn. Ond