Tudalen:Yr Ogof.pdf/140

Gwirwyd y dudalen hon

Troes y llygaid dwys ac unig i edrych ar Joseff.

Nid oeddynt yn ei gyhuddo na'i feio, ac nid oedd ynddynt ddim dicter. Gallai Joseff wrthsefyll y pethau hynny: pe cyhuddai'r llygaid ef, gallai geisio'i amddiffyn ei hun a chwilio'n wyllt am esgusion; a phe ceryddent ef, heriai ddicter â dicter. Ond o flaen yr edrychiad hwn, fel niwl y bore y diflannai pob rhagrith, ac o fannau dirgelaf ei enaid codai meddyliau a hanner-meddyliau llechwraidd, gan ymlusgo ymaith mewn dychryn. Yr oedd ei enaid ef, Joseff o Arimathea, Cynghorwr pendefigaidd a droes yn gynllwynwr taeog, yn noeth i'r llygaid hyn. Ni chofiai erioed y fath noethni—na'r fath ryddid. Teimlai fel plentyn yn eiddgar a syn a diniwed, cyn tyfu o fiswrn ffuantwch ar ei wyneb. Esmwythyd, awdurdod, cyfoeth—diddim oll: rhodres, cysêt, uchelgais—llwch i gyd. Y syml, y didwyll, y pur—am y rhai hynny y chwiliai'r llygaid, am ddiniwedrwydd y plentyn ynddo. O, na ddeuai cerydd neu ddirmyg neu apêl i'r llygaid hyn! Yr oedd yr ymchwilio tosturiol hwn yn . . . yn ddidrugaredd.

"Dy enw?"

Safai'r ail dyst wrth y llwyfan yn ôl rheolau'r llys, nid oedd tystiolaeth y cyntaf o werth heb ei hategu.

"Arah fab Malachi. Cyfnewidiwr arian."

Un o feibion yr hen Falachi oedd hwn, dyn bychan cyfrwys yr olwg fel ei dad, a'i lygaid cyflym yn agos iawn at ei gilydd. Wedi i'r swyddog adrodd y rhybudd eilwaith, gŵyrodd y Rabbi Tobeias uwch y dyn bach.

"Dywed wrth y llys beth a ddywedodd y carcharor am ddinistrio'r Deml?"

"Gwnaf, Barchusaf Rabbi. Yr oeddwn i yno ar y pryd, wrth y bwrdd nesaf at un ben-Lefi. Cofiaf y bore'n dda, oherwydd fe gododd rhyw ddyn o Gorinth dwrw wrth newid deg drachma a disgwyl cael.

"Nid oes gan y llys ddiddordeb yn arian y dyn o Gorinth."

"Y mae'n ddrwg gennyf, Barchusaf Rabbi. Ond ef a gychwynnodd y terfysg, ac fe ddaeth y carcharor i'r Cyntedd i gymryd ei blaid, ac yna

"A gofi di eiriau'r carcharor pan soniai am ddinistrio'r Deml?"

"Mi allaf ei weld ef y munud 'ma, Barchusaf Rabbi, yn sefyll wrth borth y Cyntedd ac yna . . ."