Tudalen:Yr Ogof.pdf/142

Gwirwyd y dudalen hon

Gratus gan y gŵr balch a byrbwyll Pontius Pilat, a thrwy'r blynyddoedd bu helynt ar ôl helynt. Ond er pob sen ar ei bobl a'u crefydd a'u Teml ac arno ef ei hun fel eu Harchoffeiriad, wynebai Joseff Caiaffas y Rhaglaw Rhufeinig o hyd fel pe am y tro cyntaf erioed, yn gwrtais a rhadlon, a'i wên yn gyfeillgar. Casâi Pilat ef â chas perffaith, ac ni chuddiai'i deimladau milwr oedd ef, garw ond unplyg, gwyllt ond onest, trahaus ond didwyll, digydwybod ond digynllwyn. Rhyferthwy o ddyn, a ddirmygai â'i holl erwinder ystumiau gofalus yr Archoffeiriad o Iddew. Daliai Annas i dywallt arian y Deml i'r Praetoriwm, a'r cyfoeth hwnnw a ataliai lid y Rhufeinwr chwyrn. Rhoddai Pilat lawer am yrru'r rhagrithiwr cwrtais hwn yn bendramwnwgl o'i orsedd, ond ni phoenai'r llwynog pan ruai'r tarw. Yr oedd urddas a chwrteisi Joseff Caiaffas mor ddifrycheulyd ag erioed.

Urddas a chwrteisi. O flaen popeth, urddas a chwrteisi. Llawer gwaith yn y Sanhedrin yr ymlusgodd carcharor ar y llawr o'i flaen, gan ymbil am drugaredd a chusanu ymyl ei wisg, a phob tro bu Caiaffas yn urddasol o anhrugarog, mor ddideimlad â'i wisg. A phan godai helynt rhyw ddadl boeth yn y Cyngor, araf a dethol oedd ei eiriau ef. Hyd yn oed pan daflodd Hasael y Pharisead, un noswaith ystormus, y gair 'llwfrgi' i'w ddannedd, nis cythruddwyd i ddial â brawddegau miniog. Bu'n gwrtais—gan wybod y deuai cyfle i dalu'n ôl. Byr fu gyrfa Hasael y Pharisead yn y Sanhedrin.

Ni chollasai Caiaffas ei dymer erioed, ond yr oedd ar fin hynny'n awr wrth geisio edrych i lygaid eofn y carcharor hwn o Nasareth. Gofynasai'r cwestiwn "Onid atebi di ddim?" yn weddol dawel, ond clywsai'r rhai a'i hadwaenai orau beth cynnwrf yn ei lais. Y mymryn lleiaf, efallai, ond digon i fradychu'r ffaith fod ei hunanlywodraeth ddi-feth yn sigledig. Yn y saib a fu ar ôl y cwestiwn, tybiodd yr Archoffeiriad iddo weld cysgod gwên yn llygaid y Rabbi Tobeias, ac ni hoffai'r olwg a daflai'r plismyn ar ei gilydd. A oedd tipyn o saer o Nasareth yn mynd i'w herio a'i drechu ef, yr Archoffeiriad Joseff Caiaffas, yng ngŵydd y Cynghorwyr a'r plismyn a'r tystion hyn? Disgwyliasai i'r carcharor, fel cannoedd o rai eraill yn yr ystafell hon, blygu o'i flaen a chrefu am drugaredd. Ond yr oedd yn amlwg fod hwn yn greadur ystyfnig.

Safai Caiaffas yn betrus ar fin y llwyfan, a gallai Joseff ddychmygu'i feddyliau ef. Yn ôl rheolau'r llys, yr oedd y