Tudalen:Yr Ogof.pdf/143

Gwirwyd y dudalen hon

praw drosodd a'r Nasaread yn rhydd i ddychwelyd at ei ddisgyblion. Gallai'r Archoffeiriad ei rybuddio'n llym ac, os mynnai, orchymyn ei fflangellu am ei ryfyg yn y Deml, ond nid oedd ganddo dystiolaeth i'w yrru i'r groes.

Ped âi ag ef at Pilat gan ofyn i'r Rhaglaw ei ladd, ni wnâi'r Rhufeinwr ond chwerthin. Rhyw ffwl yn dweud y gallai adeiladu'r Deml mewn tridiau? Wel, wir! Haerodd rhyw ddyn yn Rhufain unwaith y dylifai'r afon Tiber dros y ddinas oll pe poerai ef iddi! Ei gyngor ef fyddai gwneud fel y gwnaethai'r Rhufeinwyr—chwerthin am ben y creadur a gofyn i un o'r beirdd lunio cân ddigrif amdano.

Nid oedd dim amdani ond gohirio'r achos nes dod o hyd i well tystion a chyhuddiadau mwy damniol. Gohirio? Culhaodd llygaid Caiaffas. Gohirio? Cerdded yn ôl i'w orsedd wedi'i orthrechu? Troi at y Sanhedrin a dweud, "Y mae'n wir ddrwg gennyf imi eich tynnu o'ch gwelyau, gyfeillion, ond, fel y gwelwch . . . "? Na, heno, heno amdani. Ni threchid ef, Joseff Caiaffas, gan ryw anfadyn o Galilea. Dywedai rheol y llys na ellid "condemnio neb i farwolaeth ar ei gyffesiad ef ei hun," ac felly nid oedd gwylltio'r carcharor a thynnu cyfaddefiad o'i enau o un gwerth. Ond . . . ond! Ymsythodd Caiaffas uwchben y carcharor, ac yr oedd ofn methu yn gryndod yn ei lais.

"Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy y Duw byw i ddywedyd wrthym ni ai tydi yw'r Crist, mab Duw."

Gŵyrasai'r Nasaread ei ben yn ystod petruster yr Archoffeiriad, ond cododd ef yn awr i ateb yn dawel,

"Ti a ddywedaist."

Gwelai Joseff ysgwyddau Caiaffas yn llacio gan siom a'i daldra urddasol yn lleihau. Methasai. Disgwyliasai y byddai'r ateb yn gabledd noeth, a'r ddedfryd am gabledd oedd marwolaeth. Ond yr oedd y carcharor hwn yn rhy gyfrwys iddo. Gohirio, nid oedd dim arall amdani, aros hyd oni . . .

Troes y carcharor i edrych i wynebau'r Sanhedrin, a thywynnai rhyw ddisgleirdeb rhyfedd yn ei lygaid. Ef erbyn hyn a oedd yn ei lawn daldra, a phan agorodd ei enau, gwrandawai pawb yn syn ac astud ar ei eiriau.

"Eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef."

Bu distawrwydd syfrdan. Syllodd Joseff ar y llawr o'i flaen, gan aros i'r ystorm dorri. Ond ni thorrodd. A oedd y