Tudalen:Yr Ogof.pdf/144

Gwirwyd y dudalen hon

cabledd yn un mor ofnadwy nes mynd â'u hanadl ymaith? Cododd ei olwg yn bryderus, a llamodd ei galon mewn llawenydd wrth ganfod y dryswch syn ar yr wynebau o'i gwmpas: gwnaethai'r geiriau argraff ddofn hyd yn oed ar yr hen Falachi. Yr oedd ceg Esras yn agored a rhyw hanner gwên ffôl yn hofran o'i hamgylch: gŵyrai eraill ymlaen ag ofn yn gymysg â'r syndod yn eu llygaid. Dim ond Isaac a ymddangosai'n ddigyffro, ond arhosai ef i weld beth a ddigwyddai cyn gwneud y sŵn yn ei wddf.

Torrwyd ar y distawrwydd gan sŵn dillad yn cael eu rhwygo ufuddhâi Caiaffas yn awr i orchymyn y Ddeddf. "Y wisg uchaf a'r un oddi tani â rhwyg anhrwsiadwy"hynny a archai'r Gyfraith i'r Archoffeiriad yng ngŵydd cabledd, ac â dwyster dramatig yr ufuddhaodd Caiaffas. Yna troes at y Sanhedrin.

"Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? Wele, yr awr hon y clywsoch ei gabledd ef."

Chwipiodd y geiriau hwy'n ôl i'w gelyniaeth. Caeodd Esras ei geg ac ysgyrnygodd ei ddannedd: gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddf: cododd yr hen Falachi i chwifio'i ddyrnau'n wyllt. Enillasai Joseff Caiaffas y dydd.

Gwyddai hynny, ac ni wastraffodd ennyd. Ar unwaith, â llais uchel, taflodd at y Sanhedrin y cwestiwn ffurfiol a ragflaenai'r ddedfryd.

"Beth a debygwch chwi?"

Cododd dau Ysgrifennydd y Cyngor, un o bobtu'r hanner-cylch, i gyfrif y pleidleisiau o blaid ac yn erbyn. Ond nid oedd eu hangen. Ag un llef gwaeddodd y lleisiau chwyrn,

"Y mae ef yn euog o farwolaeth."

Yna, cyn i Gaiaffas gael amser i gyhoeddi'r ddedfryd, rhuthrodd yr hen Falachi ymlaen i boeri yn wyneb y carcharor ac i'w daro'n ffyrnig ar ei rudd. Dilynwyd ei esiampl gan ei fab Arah a chan y plismyn, ac uchel oedd sŵn gwawd a chrechwen a chernod a phoeri. Ni chofiai Joseff y fath olygfa yn y Sanhedrin. Tynnodd un benwisg y Nasaread i lawr tros ei wyneb, a chan ei daro'n giaidd dro ar ôl tro, gwaeddodd,

"Proffwyda, O Grist, pwy a'th drawodd!"

Caeodd Joseff ei ddyrnau a chamodd yn chwyrn, gan fwriadu ymwthio rhyngddynt hwy a'r carcharor. Fe'i cafodd ei hun wyneb yn wyneb â Chaiaffas.