"Nid ymyrrwn i ddim, Joseff." Gwenai'r Archoffeiriad yn gyfeillgar, ond yr oedd y rhybudd yn ei lais yn ddigamsyniol.
"Ni bu praw mor felltigedig o annheg yn unman erioed, f'Arglwydd Caiaffas. Ac yn awr, fel petai'r annhegwch heb fod yn ddigon
"Geiriau plaen, Joseff o Arimathea!"
"Digon plaen i fod yn eglur, efallai, Joseff Caiaffas." Troes ar ei sawdl a brysio tua'r drws.
"Bydd y Cyngor yn cyfarfod eto ar yr awr gyntaf," galwodd yr Archoffeiriad ar ei ôl.
Yn ffwndrus a pheiriannol y cerddodd i lawr y grisiau o'r neuadd. Islaw, ar ganol y cwrt agored, tyrrai plismyn a gweision o amgylch tân a losgai mewn rhwyll haearn.
"Yr oedd hwn hefyd gyda Iesu o Nasareth," gwaeddodd rhyw ferch.
"Uffern dân! Am yr ail waith, nid adwaen i'r dyn."
Acen Galilea, meddai Joseff wrtho'i hun fel y brysiai ar draws y cwrt tua'r porth. Sylwodd ar y dyn wrth fynd heibio iddo, gŵr llydan a chadarn ei ysgwyddau ac ar ei wyneb gerwin felyndra haul a gwynt. Pysgodwr o Lyn Galilea, efallai. Ond beth yn y byd a wnâi ef yma?
Tu allan, yr oedd lloer Nisan yn fawr yn y nef a'r sêr yn ddisglair uwch tawelwch gwyn y ddinas. Oedodd yn y porth, heb wybod yn iawn i b'le'r âi. Os dychwelai i'r gwesty, ni allai gysgu, ac yn y bore byddai cwestiynau Esther yn ddiderfyn. Beth a ddywedai hi, tybed, pan glywai am ei ffrae â Chaiaffas?
Tu ôl iddo, wrth dân y cwrt, codai lleisiau dig, "Wyt, yr wyt ti'n un ohonynt!"
"Y mae dy leferydd yn dy gyhuddo!"
Daeth llais dwfn y pysgodwr o Galilea,
"Damnedigaeth! Am y trydydd tro, nid adwaen i'r dyn." Yn glir ac uchel, fel un a geisiai dorri ar gwsg y ddinas, canodd rhyw geiliog anesmwyth yn rhywle gerllaw.
Camodd Joseff o gysgod y porth i olau'r lloer, ac fel y gwnâi hynny, rhuthrodd rhywun heibio iddo, fel petai'n ceisio dianc am ei fywyd. Aeth y dyn i lawr y grisiau o farmor o flaen y porth ar ddwy naid, ac yna rhedodd ymaith yn wyllt i'r chwith. Y Galilead a regai yn y cwrt.
Troes Joseff hefyd i'r chwith a'i feddwl fel trobwll. Teimlai yr hoffai yntau redeg am ei fywyd.