Tudalen:Yr Ogof.pdf/146

Gwirwyd y dudalen hon


VIII



LAWR yn Nyffryn Cidron modrwyai'r afonig o olau'r lloer i gysgod dail, o gysgod dail i olau'r lloer, gan dincial dros y cerrig. Ni synnai Joseff fod Othniel mor hoff o eistedd yng nghwr pellaf y berllan gartref a murmur y nant yn hyfrydwch i'w glustiau. Othniel druan! Ef wedi'r cwbl a oedd yn iawn am y Nasaread, a byddai clywed am ei ddal a'i ladd yn loes i'w galon. Ei ladd? Ie, oherwydd ni wnâi Pilat ond arwyddo'r warant yn frysiog ac ysgornllyd.

Rhyfedd i'r breuddwyd hwnnw fflachio fel proffwydoliaeth i feddwl Othniel! Nid oedd ei hiraeth am wellhad yn ddigon i egluro'r peth. Byth er pan ddychwelasai Elihu o'r Gogledd, am y Nasaread y meddyliai ac y siaradai Othniel; a phe gallai gerdded, gwyddai ei dad yr aethai i'w gynnig ei hun yn ddisgybl iddo, er na welsai mohono erioed.

Gwenodd Joseff ar loywder yr afonig oddi tano. Mab y Sadwcead cyfoethog yn ddisgybl i ryw . . .! I ryw beth? "Nid tipyn o saer yw Iesu o Nasareth, Syr,"—clywai'r geiriau yn su'r afon ac yn siffrwd dail llwydion yr hen olewydd cnotiog o'i amgylch. Ar y bryn uwchben yr oedd llonyddwch enfawr y Deml, a thybiai y crwydrai'r geiriau drwy ei chynteddau a'i chlawstyrau a'i chysegroedd hi. Ymhlith y sêr, yn rhyddid holl ehangder y nef, nofiai llais y Nasaread ei hun: "Eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef." Darfu ac yna nid oedd ond telyn y nant a su'r dail.

Mab y Dyn. Cofiai Joseff yr edrychiad a chwiliai i guddleoedd ei enaid, gan chwalu ymaith bob rhagrith a ffuantwch. Cofiai hefyd yr urddas a wisgai'r Nasaread fel mantell pan droes i lefaru wrth y Sanhedrin. Oedd, yr oedd yr ystorïau a glywsai am hwn yn wir, bob un ohonynt, ac nid rhyfedd bod yr hen Elihu yn siarad amdano mewn islais dwys. Nid tipyn o saer o Nasareth oedd hwn. Nid rhyw benboethyn