Tudalen:Yr Ogof.pdf/147

Gwirwyd y dudalen hon

â'i feddwl yn llawn o syniadau gwyllt. Nid ymhonnwr yn mwynhau sylw a hynodrwydd. Hwn. . . Hwn oedd . . . Hwn oedd . . . y Crist.

Fel y deuai'r pedwar gair hyn i'w feddwl, sylweddolai Joseff fod sylfaen ei fywyd yn cael ei chwilfriwio. Buasai'i fyd yn esmwyth a difater, a throes ei ben yn awr i'r cyfeiriad lle gorweddai Arimathea a'i ystâd ffrwythlon ef ymhell dros y bryniau. Yno yr oedd tawelwch dibryder, cyfoeth grawnwin a ffigys ac olifaid, gweision a chaethweision at ei alwad, cysur a digonedd. Ond dywedasai'r llygaid tosturiol mai gŵr hunanol a rhagrithiol ydoedd, duwiolfrydig ond didduw, defosiynol ond digrefydd. Dywedent hynny'n huawdl, ond heb ei gyhuddo na'i farnu, gan losgi drwy bob ffug a rhodres. Gododd byddin o esgusion ym meddwl Joseff. Oni chadwai'r Sabath cystal ag un Pharisead? Cyn gynted ag y deuai, ar yr hwyrnos cyn y Sabath, sain utgorn yr hazzan o fur y synagog, darfyddai pob gwaith ar ei ystâd ef, a phan wawriai'r dydd sanctaidd nid oedd un teulu mor ffyddlon yn y Cwrdd â'i deulu ef. Ac onid ef a dalodd am godi'r synagog hardd yn Arimathea? Ac am yr arch o goed cedr lle cedwid memrynau'r Gyfraith? Onid ag ef yr ymgynghorai Rheolwr y synagog ynghylch pob gwasanaeth? Oni welodd y Sanhedrin yn dda, ddeng mlynedd yn ôl, i'w ethol ef yn aelod? Oni roddai i'w weithwyr a'i weision gyflog da a bwyd a chysur gwell nag a enillai neb yn unman arall yn y cylch? Onid oedd ei enw da yn ddihareb yng Ngogledd Jwdea? Oni fendithid ef gan dlodion a gweddwon ac amddifaid? Oni . . .?

"Onid tydi a aeth yn daeog at Gaiaffas?" meddai'r ffrwd wrth ei draed. Gwyliodd hi'n ymdroelli yng ngolau'r lloer, gan geisio rhoi ei holl sylw ar grychiadau arian ei dŵr. Ond ni fedrai. Gwelai eto lygaid unig y Nasaread a'i urddas rhyfeddol fel y safai tu allan i dduwch ffiaidd yr ogof. Aeth eto dros ddigwyddiadau'r praw ym mhlas Caiaffas, a mwyaf yn y byd y meddyliai amdano, mwyaf annheg y gwelai ef. Ni allai ddeall sut y gallodd ef eistedd yn dawel yn y Cyngor yn gwylio'r fath anghyfiawnder. I ddechrau, dim ond ym man cyfarfod y Sanhedrin, Neuadd y Meini Nadd yn y Deml, y gellid profi neb ar gyhuddiad yn haeddu angau: nid oedd ganddynt hawl o gwbl i gynnal y praw ym mhlas yr Archoffeiriad. Ac ordeiniai'r rheolau fod y praw i'w agor yn y