Tudalen:Yr Ogof.pdf/148

Gwirwyd y dudalen hon

bore, gan wahardd ei ddechrau yn y prynhawn heb sôn am y nos. Yna, ar ddiwedd y praw, ni ellid cyhoeddi'r ddedfryd, ond ei chadw'n ôl tan y dydd canlynol, gan roi amser i bob meddwl ailystyried yr holl dystiolaeth. Gwthiasai Caiaffas bob rheol o'r neilltu, yn benderfynol o gondemnio'r carcharor ar frys gwyllt. Ben bore yfory, ar yr awr gyntaf, cyfarfyddai'r Sanhedrin eto ym mhlas Caiaffas, yn fwy niferus a ffurfiol efallai y tro hwn, a byddai digon o dystion o blith y Cynghorwyr eu hunain i brofi bod y Nasaread yn euog o gabledd echrydus. Gallai Joseff ddychmygu'r hen Falachi â'i ddwylo i fyny mewn braw ac o'i gwmpas ddwsin o Phariseaid duwiolfrydig yn gwneud, fel Isaac, sŵn huawdl iawn yn eu gyddfau dwys. Yna, cyn ymgasglu o'r pererinion a gysgai hyd y bryniau tu allan i'r ddinas, cymhellid Pilat i arwyddo'r condemniad, a llusgai rhai o filwyr Rhufain y Nasaread ymaith i'w groeshoelio. A bu ganddo ef, Joseff o Arimathea, law fawr yn yr ysgelerder hwn.

Ond a allent hwy groeshoelio'r Crist? Cyflawnodd ef wyrthiau nerthol, gan roddi llygaid i'r deillion a chlyw i'r byddar, ac oni ddywedid iddo dynnu gŵr ifanc o Fethania o afael angau ei hun? Safai'n awr yn rhwym wrth golofn o garreg yn un o'r celloedd diffenestr dan blas yr Archoffeiriad, ond yn y bore troai'i rwymau'n llwch a chydiai parlys, dro, ym mreichiau plismyn y Deml a milwyr Antonia. Toddai pob cleddyf yn nwylo'r Rhufeinwyr; ysigai pob gwaywffon fel brwynen. A phan lifai'r pererinion i'r ddinas, gwaeddent "Hosanna!" ag un llef. Gwawriai dydd Iafe: safai yn eu plith "y Brenin a ddeuai yn enw'r Arglwydd." A sibrydai'r dail a'r afonig yn awr gân y Salmydd yng nghlustiau Joseff:

"Y maen a wrthododd yr adeiladwyr
a aeth yn ben i'r gongl . . .
Dyma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd;
gorfoleddwn a llawenychwn ynddo!
Bendigedig yw a ddêl yn enw'r Arglwydd. . ."

Ac uwchben, ymhlith y sêr:

"Pwy yw hwn yn dyfod o Edom,
yn goch ei ddillad o Bosrah?