Tudalen:Yr Ogof.pdf/149

Gwirwyd y dudalen hon

hwn sydd hardd yn ei wisg,
yn ymdaith yn amlder ei rym?
Myfi, yr hwn a lefaraf, mewn cyfiawnder
ac sydd gadarn i iacháu.
Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad
a'th wisgoedd fel un a sathrai mewn gwinwryf?
Sethrais y gwinwryf fy hunan,
ac o'r bobl nid oedd un gyda mi:
canys mi a'u sathraf hwynt yn fy nig,
ac a'u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd;
a'u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad,
a'm holl wisgoedd a lychwinaf.
Canys dydd dial sydd yn fy nghalon,
a blwyddyn fy ngwaredigaeth a ddaeth.
Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr;
rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr:
yna fy mraich fy hun a'm hachubodd
a'm llidiowgrwydd a'm cynhaliodd.
A mi a sathraf y bobl yn fy nig,
ac a'u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd:
a'u cadernid a ddisgynnaf i'r llawr.'

Cadernid Annas a Chaiaffas a'u lleng o ddilynwyr ariangar a droesai'r Deml yn "ogof lladron." Cadernid preswylwyr taeog Jerwsalem a besgai ym mhorfa fras y mynydd sanctaidd. Cadernid y Phariseaid a'u gwag ddefosiwn. Cadernid-ie, cadernid Sadwceaid moethus fel ef ei hun, a'u bryd ar fywyd esmwyth, digynnwrf ar bob cyfrif. Cadernid rhagrith, uchelgais annheilwng, pob twyll, pob malais, pob gormes. Yfory gwawriai Dydd Iafe, a chyn hir dylifai'r holl genhedloedd i syllu ar ogoniant Seion. Heno, y Crist unig a dirmygedig yn y gell dywyll; yfory. . .

Tybiai Joseff y gwelai wyneb Jwdas o Gerioth yn gwenu arno o loywder yr afonig, a'r llygaid o hyd yn eiddgar a sicr a buddugoliaeth yn eu trem. Nid er mwyn arian y bradychodd ef y Crist, yr oedd Joseff yn sicr o hynny. Ai ceisio prysuro dydd Iafe yr oedd? Ie, fe eglurai hynny ei holl ymddygiad ei gynllun parod, ei ddifrawder ynglŷn â'r wobr, ei olwg ffyddiog, ei gamau sicr wrth fyned ymaith. Ac yfory, pan ddatguddiai'r Crist ei allu a'i fawredd, byddai