Tudalen:Yr Ogof.pdf/15

Gwirwyd y dudalen hon

cynnwys adnodau o'r Ysgrythurau, a'r merched yn wylaidd o'u hôl. Cerddai Joseff ar y blaen gyda'i fab Beniwda, a sylwodd hwnnw ei fod yn dawedog a synfyfyriol yn awr. Yr oedd hynny, meddyliodd Beniwda, yn beth pur anghyffredin, gan fod ei dad yn un mor fodlon a digyffro bob amser. Hm, gobeithio i'r nefoedd na chlywodd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ei fod ef, Beniwda, yn Genedlaetholwr chwyrn ac yn aelod o Blaid Ryddid! Byddai'r olew yn y tân wedyn! Ond rhywbeth arall a'i poenai, efallai, rhywbeth a ddywedasai Othniel wrtho.

Yn y tŷ, galwodd Othniel y gaethferch o Roeg ato. "Alys?"

"Ie, Syr?"

"Mi lwyddais!"

"I gymell eich tad?"

"Ie. Chwi, ac nid Elisabeth, a gaiff fynd i Jerwsalem yfory."

"O, y mae'n dda gennyf, Syr. Yr ydych yn sicr y bydd y Proffwyd o Nasareth yno?"

"Bydd, yn ôl Elihu, ef a'i ddisgyblion, tros yr Ŵyl."

"Af ato y cyfle cyntaf a gaf. O, y mae'n siŵr o wrando arnaf! Syrthiaf ar fy ngliniau o'i flaen, cusanaf ymyl ei wisg, erfyniaf arno i ddod yma. O, y mae'n siŵr, yn siŵr o ddod!" Disgleiriai llygaid Alys, a gwelai Othniel fod dagrau o lawenydd yn berlau ynddynt.

"Dywedais wrth fy nhad mai am i chwi weld Jerwsalem a'r Deml yr oeddwn."

"Ac fe gredodd hynny?"

"Do, wrth gwrs. Petai'n amau am ennyd fy mod i'n eich gyrru at y Nasaread . . . " Ysgydwodd Othniel ei ben yn lle gorffen y frawddeg.

"O, y mae'n siŵr o wrando arnaf!" meddai'r gaethferch eto. "Fe ddaw yma i Arimathea cyn gynted ag y bydd y Pasg drosodd a chewch chwithau eich iacháu ganddo. Ac yna . . .

"Ac yna?"

"Byddwch . . . byddwch yn un o'i ddisgyblion, efallai, ac ewch . . . ewch ymaith gydag ef." Swniai'i llais yn drist yn awr.