Tudalen:Yr Ogof.pdf/150

Gwirwyd y dudalen hon

Annas a Chaiaffas yn plygu o flaen Jwdas o Gerioth ac yn erfyn am faddeuant iddo. Yfory.

Cododd Joseff oddi ar y boncyff lle'r eisteddai, a cherddodd, yn araf o dan yr hen olewydd, a'i sandalau'n dawel ar fwsogl y llawr. Ar y dde iddo, gloywai'r creigiau gwynion yng ngolau'r lloer, a gwnâi'r beddau, a naddwyd fel ogofau ynddynt, i Joseff gamu'n dawelach fyth. Ymhen ennyd oedodd wrth glawdd a gaeai ryw ugain o'r olewydd i mewn yn berllan. Mor dawel oedd y lle! Disgwyliasai weled amryw o bererinion yn cysgu o dan y coed, ond nid oedd yno neb nac un sŵn ond siffrwd y dail. Diferai arian y lloer drwy gangau'r pren nesaf ato, gan ffrydio'n batrymau cain ar y llawr islaw. Syllodd Joseff arnynt, gan wylio'u llewych yn troi'n dywyllwch dwfn wrth fôn y pren.

Aeth ias sydyn i lawr ei gefn. Gwelsai rywbeth neu rywun yn symud o dan y goeden, ac wrth i'w lygaid gyfarwyddo â'r gwyll, yr oedd yn sicr fod rhywun yn sefyll yno a'i bwys ar ei chyff. Torrodd ochenaid ddofn ar ei glust, ac yna gwelai bwy bynnag a oedd wrth y pren yn llithro i'r llawr ac yn curo'r boncyff yn wyllt â'i ddwylo, gan riddfan mewn ing. Tybiai Joseff hefyd fod geiriau yn gymysg â'r ocheneidiau, ond ni ddeallai un ohonynt.

Sylweddolodd ei fod wrth glawdd gardd Gethsemane, a gwelai draw ar y dde yr hen olew-wryf a roes ei enw i'r lle. Onid yma y dywedodd pennaeth y plismyn iddynt ddal y Nasaread? Ie, ac efallai mai un o'i ddilynwyr oedd hwn a dorrai'i galon wrth fôn y pren. Agorodd Joseff y glwyd fechan gerllaw, a dug y sŵn y griddfannwr yn gyflym o'r cysgod i olau'r lloer. Chwipiodd ei gleddyf o'r wain, a safai yno'n fygythiol rhwng y goeden a'r glwyd. Adnabu Joseff y rhegwr a welsai'n rhuthro ymaith o blas Caiaffas.

"Gweiniwch eich cleddyf, fy nghyfaill. Ni fwriadaf un drwg i chwi."

"Hy! Cyfaill!" Yr oedd ei dôn yn sarrug, ond er hynny, gwthiodd ei gleddyf yn ôl i'r wain.

"Ie, cyfaill, er bod yr urddwisg hon amdanaf. Un o ddisgyblion Iesu o Nasareth, onid e?"

Nid atebodd y dyn, dim ond codi'i ben yn herfeiddiol a chadw llaw fygythiol ar ei gleddyf.