Tudalen:Yr Ogof.pdf/153

Gwirwyd y dudalen hon

ohonom, Ioan a minnau, i'r ddinas i baratoi'r Pasg. Ond nid oedd gennym syniad yn y byd i ble'r aem, Syr. Pan ddaethom i borth y ddinas, dyna lle'r oedd dyn, un o weision Heman, ag ystên ar ei ysgwydd. Anaml iawn y gwelir dyn yn cario ystên, a phur anfodlon oedd gwedd hwn wrth wneud gwaith merch. Dilynodd Ioan a minnau ef i dŷ Heman i baratoi'r Pasg. A neithiwr, pan fwytaem,

Hwn yw fy nghorff,' meddai'r Meistr wrth dorri'r bara, a Hwn yw fy ngwaed,' wrth roddi'r cwpan inni. Na, Syr, nid difa'i elynion a wna'r Meistr yfory, ond . . . ond . . . "

Gŵyrodd ei ben ag ochenaid fawr. Yna cododd ef yn sydyn a ffyrnig.

"Pe cawn i afael yn y Jwdead melltigedig 'na—a begio'ch pardwn, Syr—mi a'i tagwn â'r dwylo hyn. Ac yn llawen." Daliodd ei ddwylo allan, gan gau'i fysedd yn fygythiol. Gwyddai Joseff nad casineb tuag at Jwdas yn unig a oedd yn y frawddeg, ond holl ddirmyg y Galilead tuag at wŷr Jwdea. Gwelodd y pysgodwr yr hanner-gwên ar ei wyneb.

"Rhaid i chwi faddau i mi, Syr. Gwn mai gŵr o Jwdea ydych, ond ni fuasai hyn wedi digwydd yn y Gogledd. Petaech chwi'n gweld y miloedd a oedd yn dilyn y Meistr yng Ngalilea Pobl gyffredin, efallai, Syr, ond cafodd Jerwsalem ryw syniad o'u brwdfrydedd hwy y dydd o'r blaen. 'Welsoch chwi'r orymdaith pan farchogodd y Meistr ar ebol asyn i'r ddinas, Syr?"

"Naddo, ond clywais amdani."

"Dyna'r bobl i chwi! A gwae i Gaiaffas pe meiddiai roi llaw ar y Meistr pan oeddynt hwy o gwmpas y ddinas a'r Deml! Na, yr oedd yn rhaid iddo gael aros tan y nos, aros nes eu bod yn cysgu hyd y bryniau yma, cyn gyrru'i blismyn yn llechwraidd i'w ddal. Dyna beth a aeth i waed y Jwdas 'na."

"Yr orymdaith?"

"Ie, Syr. Ef a oedd wrth ben yr ebol asyn, ac edrychai fel petai'n meddwi'n lân yn sŵn yr 'Hosanna!' Bu'n Selot mawr ar un adeg, cyn dyfod atom ni, a gwelwn yr hen wylltineb yn ei lygaid wrth iddo arwain yr ebol drwy'r dyrfa.

"Y golau hwnnw a welais innau ynddynt pan ddaeth i'r Deml."

"Ie, y mae'n debyg, Syr. Er i'r Meistr ein rhybuddio