Tudalen:Yr Ogof.pdf/154

Gwirwyd y dudalen hon

ddegau o weithiau nad eistedd ar orsedd Dafydd oedd ei fryd. A phob tro y soniai am Jerwsalem, tristwch, nid dyhead, a oedd yn ei lais. Ond er na ddywedai hynny, daliai Jwdas i hiraethu am i'r Meistr ei gyhoeddi'i hun yn Frenin. Unwaith, ar ôl inni fod ar daith bregethu, aethom gyda'r Meistr i chwilio am dipyn o dawelwch ac i ddweud yr hanes wrtho. I ffwrdd â ni ar draws congl uchaf y Llyn yn fy nghwch i ..

"Yr oeddwn i'n amau mai pysgodwr oeddych."

"Ie, Syr, pysgodwr—Simon fab Jona, Simon Pedr.' Gwenai'n hiraethus wrth lefaru'r ddau enw olaf.

"Y Meistr a roes yr enw' Pedr' imi, Syr. Ym Methabara, y tro cyntaf imi ei weld ef."

"Pedr—Y Graig'!"

"Ie, Syr. A chofiaf mor falch oeddwn i pan ddywedodd ef hynny. Ond sôn yr oeddwn i amdanom yn croesi'r Llyn, onid e?"

"Ac am Jwdas."

"Ie. Wel, dyna ni'n croesi congl uchaf y Llyn i chwilio am lonyddwch, ac ar ôl inni rwymo'r cwch wrth y lan, i ffwrdd â ni i fyny'r llethr, pob un ohonom yn dyheu am ddweud hanes ei daith wrth y Meistr. Ond wedi inni eistedd, digwyddais edrych dros y llyn a gwelwn rywbeth a edrychai fel cwmwl hir yn symud hyd fin y dŵr a thros Ryd Iorddonen."

"Pobl?"

"Miloedd ohonynt, Syr, yn ein dilyn ni. Cyn hir yr oedd cannoedd yn rhuthro i fyny'r llethr tuag atom gan weiddi, "Meseia!" "Brenin!" "Hosanna!" a phethau tebyg. Digwyddais edrych ar wyneb Jwdas. Yr oedd ei lygaid ar dân, ac anadlai'n gyflym fel petai yng ngafael rhyw gyffro mawr. Y mae'n debyg bod golwg gyffrous ar bob un ohonom ni, ond yr oedd ef ar fin colli arno'i hun a gweiddi gyda'r dyrfa. Wedi i'r Meistr dawelu'r bobl, fe iachaodd lawer ohonynt ac yna fe safodd ar graig i bregethu. Yr oedd pawb yn gwrando'n astud arno, Syr, ac yn clywed pob gair a ddywedai, er bod tua phum mil ohonynt ar y llethr ac i lawr at fin y llyn. Ar ôl iddo orffen llefaru a gweld bod pawb yn cael bwyd cyn troi tuag adref. . .

"Bwyd? I bum mil o bobl?"

Gwenodd Joseff yn anghrediniol ar y pysgodwr.