Tudalen:Yr Ogof.pdf/156

Gwirwyd y dudalen hon

yn siarad felly—yn ddistaw bach wrth ein gilydd. Gwyddem fod cannoedd yn ein disgwyl yn Jericho. A thu draw i Jericho Jerwsalem. Nid oeddym yn deall y Meistr o gwbl, Syr."

Edrychodd i fyny tua'r Deml gydag ochenaid, ac ysgydwodd ei ben. Disgleiriai'r lloer ar berlau'r dagrau yn ei lygaid.

"Yr oeddym fel plant, Syr—yn eiddigus o'n gilydd ymgiprys am y lle blaenaf. A phan alwodd y Meistr ni ato, gwelem fod rhyw ofid mawr yn llethu'i ysbryd. Ond nid oedd yn ddig wrth siarad â ni. Llefarodd yn dawel a charedig ond gan roi pwys ar bob gair. Pwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith,' meddai, bydded yn was i chwi.' Yna edrychodd yn hir arnom cyn chwanegu, Megis na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roddi'i einioes yn bridwerth dros lawer.' Yr oedd yn ddifrifol iawn, ond 'wn i ddim faint ohonom a oedd yn sylweddoli ystyr y geiriau, Syr. Nid oeddwn i, beth bynnag. Gwrthodwn eu credu am nad oeddwn am eu credu. Daliwn i obeithio y codai pobl Jericho a Jerwsalem fel un gŵr o'i blaid ac yr unai holl bererinion y Pasg â'i gilydd i'w gyhoeddi'n Frenin yna, yng nghanol y brwdfrydedd i gyd, efallai, meddem wrth ein gilydd, y newidia'r Meistr ei feddwl . . .'

"A defnyddio'i allu?"

"Ie, Syr. Ond pan ddaethom yma i Jerwsalem, yr oedd yn dawel a thrist bron bob dydd. Fel petai rhyw gwmwl yn hongian trosto. Ac echdoe yn y Deml, wedi iddo'i dweud hi'n hallt am yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, daeth rhyw Roegiaid atom. Yr oeddym wedi sylwi arnynt droeon ac ar eu hwynebau eiddgar wrth iddynt wrando ar y Meistr. Groegiaid, Syr, nid Iddewon yn byw yng Ngroeg. Yr oedd hi'n bleser gweld yr edmygedd yn eu llygaid. Tybed a ddôi'r Meistr i Roeg a phregethu yn Athen a Chorinth? meddent wrth un ohonom. Wrth Philip o Fethsaida, yr hen bentref bach lle magwyd fi, Syr. Galwodd Philip Andreas fy mrawd, ac aeth y ddau at y Meistr i ddweud bod y Groegiaid am ei weld. Goleuodd ei wyneb mewn llawenydd, ac am ennyd mi gredais i . . . " Ysgydwodd ei ben, gan wenu'n dawel.

"Ei fod am ei ddatguddio'i hun?"

"Ie. 'Daeth yr awr y gogonedder Mab y Dyn,' meddai wrth frysio at y Groegiaid i siarad â hwy. Yr oeddym ni'r