Tudalen:Yr Ogof.pdf/157

Gwirwyd y dudalen hon

disgyblion wrth ein bodd. 'Os ydyw Jerwsalem am ei wrthod, Simon,' meddai Andreas fy mrawd wrthyf, fe fydd Groeg yn ei dderbyn.' Ond pan aethom ato ef a'r Groegiaid, yr oedd y tristwch wedi llithro'n ôl i'w lygaid. Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw, hwnnw a erys yn un gronyn,'-dyna a glywem. Eithr os bydd efe farw, efe a ddwg ffrwyth lawer. Yna edrychodd o amgylch y Deml gyda pheth dirmyg, yr oeddwn i'n meddwl-ac wedyn dros ei muriau draw tua'r Gogledd. Yr oedd golwg hiraethus yn ei lygaid, ac yr wyf yn sicr y gallai weld yr hen Lyn a'i gychod wrth y lan a'r bobl yn tyrru hyd y llethrau i lawr at fy nghwch i pan bregethai ef ohono. Ac yr wyf yn sicr y gallai weld fy mwthyn i a'r ffenestr fach lle'r eisteddai weithiau hefo'm gwraig a'i mam i wylio'r pysgodwyr ar fin y Llyn. Yna cododd ei olwg tua'r nefoedd a dweud, Yr awr hon y cynhyrfwyd fy enaid. A pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o'r awr hon? Na, oherwydd hyn y deuthum i'r awr hon! A neithiwr yn nhŷ Heman. . .

Tawodd, gan syllu ar y llawr, a'i ysgwyddau'n grwm dan faich ei bryder. Ymddangosai i Joseff fel darlun o anobaith, fel ymgorfforiad o dristwch. Yna cododd ei lygaid tua muriau'r ddinas uwchben a chaeodd ei ddyrnau'n ffyrnig.

"Jerwsalem," meddai rhwng ei ddannedd. "Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a ddanfonir atat!' Geiriau'r Meistr, Syr, geiriau'r Meistr. Echdoe yn y Deml." Syllodd eto ar y llawr gan ddweud ddwywaith, fel un â'i feddwl ymhell, "Echdoe yn y Deml, echdoe yn y Deml." Yna, gan godi'i ben yn sydyn, "Syr?"

"Ie, Simon Pedr?"

"A ydych chwi'n gyfeillgar â'r Archoffeiriad?"

"Yr wyf newydd ffraeo ag ef. A hyd yn oed pe bawn i'n un o'i ffrindiau pennaf, ni wrandawai arnaf heno. Y mae'n benderfynol o ladd y . . . y Meistr."

"Beth am y Sanhedrin, Syr? Efallai fod modd i chwi . . . "

"Eu perswadio i droi yn erbyn Caiaffas? Pe credwn fod rhyw obaith o hynny, cychwynnwn y munud yma i weld pob un ohonynt. Ond . . . Ysgydwodd Joseff ei ben, gan gofio'r wynebau llidiog o'i amgylch pan frysiodd yr hen Falachi ymlaen i boeri yn wyneb y carcharor.