Tudalen:Yr Ogof.pdf/159

Gwirwyd y dudalen hon

"Sut y cawsoch chwi fynd i mewn i'r cwrt?"

"Yr oedd Ioan yn adnabod rhai o'r morwynion—wedi arfer mynd â physgod i'r plas ers talm. Fe gymhellodd un ohonynt i adael i minnau ymuno ag ef wrth y tân. Pan ddiolchais iddi, adnabu fy acen ar unwaith a dweud fy mod i'n un o ddilynwyr y Meistr. Yr oedd yn rhaid imi wadu, Syr, yr oedd yn rhaid imi wadu. Yr oeddwn i yno i geisio helpu'r Meistr, Syr, a phe bawn i wedi cyfaddef fy mod i'n ddisgybl iddo, buasent wedi fy nal a'm rhwymo. Nid ofni hynny yr oeddwn i, Syr, ond gwybod na fedrwn i wneud dim i drio achub y Meistr wedyn. Yr oedd yn rhaid imi wadu, Syr."

Siaradai'n gyflym, ag apêl yn ei lais, gan gau ac agor ei ddyrnau'n wyllt.

"Yr wyf yn sicr fod y . . . y Meistr wedi maddau i chwi." "Do, mi wn i hynny. Y trydydd tro imi ei wadu, digwyddais edrych i fyny'r grisiau tua'r Neuadd, a dyna lle'r oedd y plismyn a'r tystion a'r . . . a'r Meistr. Fe edrychodd arnaf fi, Syr. Bydd yr edrychiad hwnnw'n fy nilyn holl ddyddiau fy mywyd. Siaradai'i lygaid yn huotlach nag unrhyw eiriau."

"Gan edliw i chwi?"

"Hoffwn pe gwnaethent hynny. Proffwydasai neithiwr y gwadwn i ef deirgwaith cyn y bore, a disgwyliwn weld ei lygaid yn fy nghyhuddo ac yn dweud, 'Dyna ti, Pedr! Yr oeddwn i'n iawn, onid oeddwn?' Ond yn lle hynny, yr hyn a ddywedent oedd, Pedr, Pedr, oni chofi mai ti yw'r graig yr adeiladaf fy eglwys arni?""

Gwelai na ddeallai Joseff a brysiodd ymlaen i egluro.

"Yng nghyfeiriad Cesarea Philipi yr oeddym ni un diwrnod, Syr. Wedi dianc yno am dipyn o dawelwch ac o gyrraedd ysbïwyr Herod. Ar ôl inni roi hanes ein teithiau drwy Galilea iddo, dyma'r Meistr yn gofyn,' Pwy y mae dynion yn dweud wyf fi?' Ioan Fedyddiwr,' meddai un; Elias, meddai un arall; Jeremias,'" meddai'r trydydd. Ac felly ymlaen, gan enwi cewri mwyaf y gorffennol. Yna fe droes atom a gofyn, Ond pwy, meddwch chwi, ydwyf fi?' Pawb yn edrych ar ei gilydd, Syr, heb fod yn sicr beth i'w ateb. Ond fe wyddwn i fod y Meistr yn fwy na neb o'r dyddiau gynt. Ti yw'r Crist, Mab y Duw byw,' meddwn i, gan blygu o'i flaen. Yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti,' meddai'r Meistr yn dawel, ond â rhyw lawenydd mawr yn ei lais, mai