"Ac ni . . . ni hoffech hynny, Alys?"
Gwridodd Alys, ond ni fu raid iddi ateb. Yr oedd sŵn carnau march i'w glywed tu allan.
"Clywch, Syr! Y Canwriad Longinus, yn fwy na thebyg."
"Ie, ni synnwn i ddim. Dywedodd y disgwyliai gael ei symud i Jerwsalem cyn yr Ŵyl. Y mae'n galw yma ar ei ffordd. Dewch ag ef i mewn yma, Alys."
"Ar unwaith, Syr."
Brysiodd allan a dychwelodd ymhen ennyd gyda'r canwriad Rhufeinig.
"Croeso, Longinus, croeso! . . . Diolch, Alys."
Syllodd y canwriad ar ôl y gaethferch fel yr âi hi ymaith drwy'r drws.
"Y mae Alys yn edrych yn hapus iawn heddiw," sylwodd. "Ydyw. Yr wyf newydd gymell fy nhad i adael iddi fynd i Jerwsalem gyda'r teulu yfory."
"O! Campus. Yr ydych yn garedig iawn wrthi, Othniel. Y mae'n dda gan fy nghalon imi ddod â hi yma.
Longinus, ar fordaith yn ôl o Rufain rai misoedd cyn hynny, a achubodd y Roeges o'r môr mewn ystorm enbyd. Ond wedi i'r llong gyrraedd Jopa, ni wyddai beth yn y byd a wnâi â hi gan i'w thad a'i mam foddi ar y daith, nid oedd ganddi neb i ofalu amdani. Er ei fod yn ganwriad yn y garsiwn yno, nid adwaenai Longinus fawr neb yn Jopa, a phan laniodd y llong, safodd ar y cei mewn dryswch mawr, a'r Roeges fach yn amddifad a dychrynedig wrth ei ochr. Cyfarfuasai â Rwth, chwaer Othniel, droeon pan oedd hi ar wyliau yn y porthladd, a phenderfynodd fynd ag Alys i'w chartref hi yn Arimathea. Erfyniodd ar y teulu i'w chymryd fel caethferch, a byth er hynny galwai'n weddol aml i holi'i helynt—ac i weld Rwth.
I weld Rwth ar y cychwyn, ond wedi iddo ddod yn gyfeillgar ag Othniel a dechrau sgwrsio ag ef am lenyddiaeth ac athroniaeth, gydag ef y treuliai'r rhan fwyaf o'i amser ar yr ymweliadau hyn. Oherwydd myfyrwir a meddyliwr oedd Longinus, ac nid milwr, a cheisiodd Othniel droeon ddarganfod pam y gwisgai helm a chleddyf yn lle bod yn athro yn un o golegau Rhufain neu Athen neu Alecsandria. Ond troi'r sgwrs yn frysiog a wnâi'r canwriad bob cynnig, fel petai'n ceisio dianc rhag rhyw atgof.
"Eisteddwch, Longinus."