ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern ni orchfygant hi.' Cesarea Philipi, Syr! Oddi yno y troesom ni'n hwynebau tua Pherea a Jericho—a Jerwsalem, ac o'r pryd hwnnw y dechreuodd y Meistr sôn am ei ddiwedd. Hy, craig!"
Gwenodd yn chwerw, gan daflu'i ben a cherdded o amgylch yn anesmwyth.
"Neithiwr ar ôl imi ei wadu," chwanegodd ymhen ennyd, "nid tosturio nac edliw yr oedd ei lygaid, ond galw arnaf i fod yn gryf a chadarn, i fod yn Graig.' Edrychodd ennyd ar batrymau'r lloer wrth ei draed cyn hanner-sisial yn ffiaidd, "Craig? Tywod! Sofl! Gwellt!"
"Nage, Pedr. 'Craig' a ddywedodd y Meistr."
Gododd y pysgodwr ei ben a syllodd yn hir i wyneb Joseff.
"Ie," meddai'n dawel. "Ie . . . Dewch, Syr.
Dringodd y ddau o Ddyffryn Cidron a chroesi'r bryn islaw'r Deml tua Seion a thŷ Heman y Saer. Pan ddaethant at glwyd y cwrt, gwelent fod golau gwan yn yr oruwch-ystafell.
"Dowch ar fy ôl i, Syr. Nid oes angen inni guro.
Aethant i fyny'r grisiau wrth fur y tŷ a rhoes Simon Pedr dri chnoc araf ar ddrws yr oruwch-ystafell ac yna ddau gnoc cyflym ymhen ennyd. Agorwyd y drws gan ŵr ifanc barfog a thebyg iawn i'r pysgodwr.
"Simon!"
"Andreas!"
Yr oedd yr ystafell yn hanner-dywyll, heb ddim ond un lamp fechan wedi'i goleuo. Taflai honno lewych ansicr ar ryw bymtheg o wynebau pryderus; taflai hefyd gysgodion anesmwyth ar y muriau a'r nenfwd. Brysiodd gŵr ifanc glân ond gwelw at Simon Pedr.
"Rhyw newydd?"
"Rhyw newydd?"
Daeth yr un frawddeg o enau'r ddau yr un pryd.
"Dyma Ioan, Syr," meddai Pedr wrth Joseff. "Yr oedd ef a minnau yng nghwrt plas Caiaffas yn ystod y praw. Beth a ddigwyddodd ar ôl imi adael, Ioan?"
"Dim o bwys. Aeth y plismyn â'r Meistr i lawr i un o'r celloedd. Mi ddois i'n syth i dŷ Heman. Y mae'r Sanhedrin yn cyfarfod eto yn y bore. Ar yr awr gyntaf. Cawsant y Meistr yn euog o gabledd."