Tudalen:Yr Ogof.pdf/161

Gwirwyd y dudalen hon

"Do, mi wn. Yr oedd fy nghyfaill, y Cynghorwr. Joseff o Arimathea, yno. Aeth yno i gondemnio'r Meistr, ond daeth ymaith yn credu mai ef yw'r Crist."

Safai Heman y Saer gerllaw.

"A oes gennych chwi ryw gynllun, Syr?" gofynnodd yn eiddgar.

"Yr unig obaith a welaf fi, Heman, yw ein bod yn casglu'r pererinion ynghyd o'r bryniau ac yn..

"Na, Syr." Ysgydwodd Heman ei ben yn araf. "Nid yw dyrnau noeth ac ambell gleddyf fel un Simon Pedr 'ma o un gwerth yn erbyn y Rhufeinwyr. A gwn y byddai'r Meistr yn ddig wrthym pe rhoem y fath gynllun ar waith. Na, Syr . . . A ellwch chwi ddim dylanwadu ar y Cynghorwyr, Syr? Y mae llawer ohonynt yn wŷr dwys a meddylgar, ac efallai . . . Ni orffennodd Heman y frawddeg: gwelai'r anobaith yn wyneb Joseff.

"Af yn gynnar i'r Llys a siaradaf â phob un y credaf fod rhyw siawns imi ddylanwadu arno, ond . . . gwn ymlaen llaw na wrandawant arnaf."

Syllodd Joseff yn drist ar wynebau llwydion y gwŷr a'r gwragedd o'i flaen. O, na allai ddwyn llewych o obaith i'w llygaid! Wrth ei ochr yr oedd y bachgen Ioan Marc a'i wyneb gwelw'n un erfyniad mud. Rhoes ei fraich yn dyner am ysgwyddau'r llanc, ond ni ddywedodd ddim wrtho: beth a oedd i'w ddweud?

"Yn ei wely y dylai Ioan Marc fod, Heman," sylwodd Simon Pedr.

"Ie. Ac yn ei wely y credwn i ei fod pan aethoch chwi a'r Meistr ymaith neithiwr. Ond heb yn wybod i neb fe drawodd liain amdano a'ch dilyn."

"I b'le?"

"I ardd Gethsemane. Ac fe'i daliwyd gan y plismyn."

"O?" Edrychai Simon Pedr yn herfeiddiol.

"Do, ond fe ddihangodd, gan adael ei wisg yn eu dwylo. Rhedodd adref yn noethlymun."

Llithrai golau cyntaf y wawr drwy ffenestr yr ystafell: canai ceiliog draw ymhell ac un arall yn nes: deffroai'r adar. O dŵr Antonia galwai'r utgyrn Rhufeinig y milwyr i ymwregysu am y dydd. Cododd pob un yn yr ystafell wyneb ofnus tua'r nenfwd, fel pe i wylio'r sŵn yn crwydro yno dan y