Tudalen:Yr Ogof.pdf/162

Gwirwyd y dudalen hon

trawstiau. Pob bore a phob hwyr, dywedai'r utgyrn pres mai Rhufain a oedd ben. "Cesar yw teyrn y byd," cyhoeddent o'r tŵr uwchlaw'r Deml sanctaidd. Yn gras a haerllug—nid yn glir a swynol fel utgyrn arian y Deml. Heddiw, yr oedd mynas lond eu sŵn. "Meseia?" meddent. "Brenin yr Iddewon? Nid oes brenin ond Cesar. Ac os baidd neb hawlio awdurdod ond ei awdurdod ef, yna .

Ciliodd y sŵn. Edrychai pob llygad yn awr ar Joseff. Pobl syml a chyffredin oeddynt, ac yr oedd gweld ei urddwisg ysblennydd yn eu plith yn ennyn gobaith ynddynt. Byddai ef yn sicr o achub y Meistr, meddent wrthynt eu hunain: byddai'r Cynghorwyr yn siŵr o wrando arno ef.

Ni allai Joseff ddioddef y taerineb yn eu llygaid hwy. Troes tua'r drws gan frysio ymaith i lwydni oer y wawr.