wyddoch. Rhyngoch chwi a mi, Joseff, mae'n glyfrach na hyd yn oed yr hen Annas. Colli'i dymer yn lân a wnaethai Annas neithiwr, yn arbennig gyda'r penbwl o fab sy gennyf fi. Petai wedi defnyddio'i ben, fe welsai ar unwaith mai 'Mi a ddinistriaf y Deml' a ddywedasai'r tyst cyntaf ac mai dweud yr un peth oedd ei le ef. Mi rois i winc fawr arno, ond wincian ar dylluan yr oeddwn i. Un felly fu Arah erioed penbwl dwl, digrebwyll. Fel ei fam. Y mae'r bechgyn eraill i gyd yn fy nilyn i, ond am hwn! . . . "
"Malachi?"
"Ie, Joseff?"
"Gwyddoch chwi gymaint am y Gyfraith a'r Ddeddf Rabbinaidd â neb."
"Wel, 'fuaswn i ddim yn dweud hynny, ond wrth gwrs, y mae fy ngwybodaeth i'n un bur helaeth. A manwl hefyd, gan eich bod chwi'n digwydd sôn am y peth. Ydyw, lled fanwl, a gallwn ddadlau â Thobeias neu Fathan ar unrhyw bwnc, er mai myfi sy'n haeru hynny. Nid fy mod i'n fy nghanmol fy hun, cofiwch, ond gan i chwi grybwyll y mater.
"Mi fûm i'n meddwl llawer am y praw yn ystod y nos, Malachi, a theimlwn yn bur anhapus.
"Wel, wir, yr oeddwn innau'n anesmwyth iawn. Llygaid y dyn, Joseff! Yn edrych drwoch, yn darllen eich meddwl chwi. Ysbryd drwg, Joseff, ysbryd drwg."
"Mi af yn gynnar i'r Sanhedrin yn y bore,' meddwn i wrthyf fy hun, i weld Malachi. Y mae'r hen ddoethor yn siŵr o fod yno o flaen pawb, ac fe ŵyr ef reolau'r Llys yn well na neb . . . "
"O, 'fuaswn i ddim yn dweud hynny, Joseff, 'fuaswn i ddim yn dweud hynny. Ond wrth gwrs, mae gennyf gymaint o brofiad â neb yn y Sanhedrin—mwy na neb, mewn gwirionedd—ac efallai eich bod chwi'n iawn fy mod i'n gwybod rheolau'r Llys cystal, onid yn well na neb arall. Efallai, wir, wedi imi ddechrau meddwl am y peth . . .
"Yr hyn a oedd yn fy mhoeni i oedd bod y praw yn un annheg iawn, Malachi—yn wir, yn anghyfreithlon."
"Y?"
"Yr oedd y Nasaread ar braw am ei fywyd, onid oedd?"
"Oedd, wrth gwrs."
"Wel, yn ôl rheolau'r Llys, dylem fod wedi cyfarfod yn y