Tudalen:Yr Ogof.pdf/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Deml, nid yma, Malachi, ac nid oedd gennym hawl i ddechrau'r praw tan y bore. Ac felly.

"Wel, wir! Wel, wir!" Cerddodd yr hen Falachi o amgylch y porth, gan chwerthin yn fain ac uchel. "Mae Joseff y Sadwcead yn mynd yn fwy manwl nag un Rabbi! Beth a gawsoch chwi i swper neithiwr, Joseff? Hi, hi, hi!"

"A minnau'n meddwl y buasech chwi'n egluro pethau imi, ac yn tawelu fy nghydwybod, Malachi," meddai Joseff gan edrych yn ddwys ar yr hen frawd.

"Cydwybod! Cydwybod! Hi, hi, hi! Dydd i ddydd a draetha ymadrodd'! Sadwcead â chydwybod ganddo! Wel, wir! Hi, hi, hi!"

"Ond, Malachi . .

"Y mae'r Pasg yn dechrau heno, Joseff. Rhaid i bopeth fod drosodd cyn hynny. Y mae Pilat wedi difa llawer Galilead o dro i dro. Wel, dyma gyfle arall iddo! Ni chaiff y gŵr o Nasareth ymyrryd eto â gwaith y Deml. Ond, Joseff?"

"Ie, Malachi?"

"Rhaid inni beidio â gwastraffu ennyd y bore 'ma, neu fe fydd y Galileaid yn dechrau dod i mewn i'r ddinas. Ac os clywant hwy ein bod yn mynd ag ef at Pilat i ofyn iddo'i ladd.. Yr oeddynt fel pobl wyllt y dydd o'r blaen pan ddechreuodd ef droi'r byrddau yn y Cyntedd. Yn gweiddi ac yn dawnsio o lawenydd! Mi hoffwn i wybod faint o arian a gododd rhai ohonynt oddi ar y llawr hefyd. Dywedai Arah ei fod tua deugain sicl yn fyr. Deugain sicl! A'r cwbl oherwydd y creadur yna. Y mae arno ef ddeugain sicl i Arah, rhyw chwech ar hugain i Samuel, rhyw bymtheg i . . . "

Agorodd y drysau tu ôl iddynt, a synnai'r ferch a'u hagorai fod rhywrai yno'n barod.

"Awn i fyny i'r neuadd, Joseff," meddai Malachi. "Cawn le cyffyrddus i eistedd yno."

"Ewch chwi, Malachi. Arhosaf fi yma am ychydig. Y mae arnaf eisiau gweld un neu ddau o'r Cynghorwyr.'

"O'r gorau, Joseff, ond peidiwch â dangos eich cydwybod i'r lleill. Neu mewn llewyg y bydd pob Pharisead ohonom! Hi, hi, hi!”

Siaradai a chwarddai'r hen frawd wrtho'i hun fel y dringai'r grisiau tua'r neuadd uwchben. Yr oedd Joseff yn falch o'i