Tudalen:Yr Ogof.pdf/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weld yn mynd. Gwyddai mai ofer oedd ceisio deffro cydwybod y Pharisead ariangar hwn: nid oedd ganddo un. A phechasai'r Nasaread yn anfaddeuol trwy ymyrryd â'r cyfnewidwyr arian: oni chollasai Arah tua deugain sicl?

Oedodd eto'n anesmwyth ac unig yn y porth. Oddi tano yr oedd y ddinas yn dawel iawn, er bod ambell golofn o fwg yn dechrau ymddangos yma a thraw. Cyn hir, gan gerdded yn fân ac yn fuan fel un ar frys mawr, nesâi'r Rabbi Tobeias. Gwenodd Joseff wrth gofio nad oedd gan yr hen Ysgrifennydd syniad yn y byd am amser: hanner—redai yn awr, er ei fod lawer yn rhy fuan i'r cyfarfod o'r Sanhedrin.

"Henffych, y Rabbi Tobeias!"

"Henffych, fy ffrind!" Daeth i ben y grisiau o farmor a rhythodd i wyneb Joseff. "Nid. . . nid Joseff o . . . o Arimathea?" Yr oedd yn syndod bod ei gof yn gweithio.


"Ie. Yr ydych, fel finnau, yn rhy gynnar o lawer."

"Ydwyf, ydwyf. Yn rhy gynnar. Ydwyf, o lawer. O fwriad. Y mae arnaf eisiau gweld yr Archoffeiriad. Cyn y cyfarfod. Y mae'n bwysig. Pwysig iawn. Heb gysgu winc neithiwr. Dim winc. Oherwydd y praw."

"Yr annhegwch, Rabbi?"

"Y? Ie. Fy meddwl i'n mynd tros yr holl beth drwy'r nos. Fel ci ar ôl ei gynffon. Y cwbl yn anghyfreithlon. Rhaid imi gael gweld yr Archoffeiriad."

"Ni chysgais innau chwaith, y Rabbi Tobeias. Nid wyf yn ŵr doeth a dysgedig fel chwi, yn gwybod manylion y Gyfraith a rheolau'r Sanhedrin, ond gwyddwn ddigon i deimlo'n euog ar ôl eu hamharchu fel y gwnaethom neithiwr. Yn euog iawn, y Rabbi Tobeias. Os caniatewch imi, dof gyda chwi at yr Archoffeiriad."

Safent tu fewn i'r porth, ac ni chlywsent sŵn traed yn dringo'r grisiau tu allan. Troes y ddau at y gŵr a'u cyfarchai.

"Henffych, y Rabbi Tobeias! Henffych, Joseff!"

"Henffych, Nicodemus!" meddai Joseff, gan adnabod Pharisead o Jerwsalem, dyn bychan tawel a nerfus. Nodiodd y Rabbi Tobeias arno, ond yr oedd yn amlwg fod ei feddwl ymhell erbyn hyn gyda'r hyn a ddywedai wrth Gaiaffas, efallai.

"Yr ydych chwithau'n rhy gynnar," sylwodd Joseff, er mwyn bod yn gwrtais yn fwy na dim arall.