Tudalen:Yr Ogof.pdf/168

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aethant i fyny'r grisiau o farmor a throi i'r dde. iddynt fynd heibio i amryw o ystafelloedd, curodd y forwyn yn ysgafn ar y drws a'i hwynebai.

"Ie?" gwaeddodd llais Caiaffas o'r ystafell.

"Y tri Chynghorwr i'ch gweld, f'Arglwydd."

"Tri Chynghorwr? Gwelaf hwy yn y Sanhedrin, dywedwch wrthynt.

Camodd y Rabbi Tobeias heibio i'r ferch ac agorodd y drws.

"Henffych, f'Arglwydd Caiaffas. Erfyniwn eich maddeuant. Ond y mae'n bwysig Pwysig iawn Diolch, fy merch i."

Aeth y forwyn ymaith, yn edrych braidd yn ansicr, ac ymwthiodd Joseff a Nicodemus i mewn tu ôl i'r hen Rabbi. Eisteddai Caiaffas ar fainc esmwyth yn mwynhau'r bwyd a'r gwin a oedd ar y bwrdd isel o'i flaen. Edrychai'n ddig, eithr dim ond am ennyd y foment nesaf, yr oedd yn gwrteisi i gyd.

"A gaf fi alw am gwpanau? Yr wyf yn sicr yr yfwch gwpanaid o win gyda mi."

Gwrthododd y tri, ac eglurodd y Rabbi Tobeias eu neges ar unwaith.

"Ynglŷn â'r praw neithiwr, f'Arglwydd Caiaffas. Y tri ohonom yn teimlo'r un peth.

"O? Maddeuwch imi am fynd ymlaen i fwyta."

"Anghyfreithlon, f'Arglwydd. Torri pob rheol."

'Anghyfreithlon? Nid wyf yn deall, Barchusaf Rabbi."

"Nid oedd gennym hawl i gynnal y praw y dydd cyn y Sabath, f'Arglwydd. Dyna un rheol a roed o'r neilltu gennym. Nid oedd gennym hawl i alw'r Sanhedrin yn y nos. Dyna un arall. Ni alwyd tystion o blaid y carcharor. Dyna drydedd. Ni roesom iddo Rabbi i'w amddiffyn. Dyna bedwaredd. Nid ymprydiodd neb ohonom y dydd cyn y praw. Dyna bumed. Nid oedd gennych chwi, y Prif Farnwr a maddeuwch imi am sôn am hynny, f'Arglwyddhawl i droi'n erlynydd. Dyna'r chweched." Pob tro y soniai am un o reolau'r Llys, edrychai'r hen Rabbi i'r nenfwd gan grychu'i aeliau fel petai'n ceisio syllu ar y rheol yn ysgrifenedig yno, ac yna gŵyrai'i ben yn sydyn i nodio ar yr Archoffeiriad cyn dweud, "Dyna drydedd" neu "Dyna bedwaredd." "Ac yn olaf, f'Arglwydd," chwanegodd, "y