Rhoes y canwriad ei darian ledr yn erbyn y mur ac yna eisteddodd ar y fainc esmwyth yng nghanol yr ystafell. Agorodd y drws eto a daeth Alys i mewn gyda dwy gwpanaid o win.
"Diolch, Alys," meddai Longinus wrth gymryd ei gwpan. "Clywaf eich bod yn mynd i Jerwsalem yfory?"
"Ydwyf, Syr."
"Yr wyf yn falch iawn. Y mae hi'n ddinas hardd, a chewch weld y Deml fawr. A bydd pobl o bob gwlad yno tros yr Ŵyl. Llawer o Roeg, Alys. Amryw o Athen, yn sicr.
"A rhai o Galilea," meddai Othniel, gan wenu ar y Roeges fel yr estynnai hi gwpan iddo yntau.
"Rhai o Galilea," ebai hithau'n dawel a hapus cyn troi i ymadael.
"Beth yw'r gyfrinach rhyngoch, Othniel?" gofynnodd y canwriad wedi i'r drws gau ar ei hôl.
"Cyfrinach?"
"Ynglŷn â Galilea?"
"Y tro diwethaf yr oeddych yma, Longinus, cofiwch imi sôn wrthych am . . . "
"Y proffwyd hwnnw o Nasareth? Gwnaf yn dda. A glywsoch chwi chwaneg amdano?"
"Naddo. Ond yn ôl Elihu, bydd yn Jerwsalem tros y Pasg. Ni allaf fi fynd ato, wrth gwrs, ac felly . . . "
"Yr ydych yn gyrru Alys?"
"Ydwyf. I erfyn arno ddod yma i Arimathea cyn troi'n ei ôl i'r Gogledd."
"Yr ydych yn credu y gall eich iacháu?"
"Ydwyf, mi wn y gall. Ond yr wyf yn dyheu hefyd am gyfle i'w gyfarfod ac i wrando ar ei efengyl. Y mae Elihu'n credu mai ef yw'r Meseia."
"Meseia?""
"Anghofiais am ennyd mai Rhufeinwr oeddych, Longinus," meddai Othniel â gwên. "Y mae pob Iddew yn disgwyl am y Meseia, am arweinydd o linach y Brenin Dafydd, wedi'i ddanfon gan Dduw i yrru pob gorthrymwr ymaith ac i fod yn frenin yn Jerwsalem. Addawyd hynny gan lawer o'n beirdd a'n proffwydi."
Chwarddodd Longinus yn dawel.
"Hoffwn wybod barn y Rhaglaw Pilat am y broffwydoliaeth!" meddai. "Y mae'r bobl yn dal i roi coel arni?"