Tudalen:Yr Ogof.pdf/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O, f'Arglwydd Archoffeiriad, nid dod yma i . . . "

"Na, mi wn. Ond er hynny, y mae'n ddyletswydd arnaf ymddiheuro i chwi ac i bob Rabbi a Pharisead yn y Llys. Yn wylaidd y gwnaf hynny, Barchusaf Rabbi. Fy nghysur yw, inni trwy fod yn anghyfreithlon ddarganfod y cabledd ofnadwy sydd yn enaid y Nasaread hwn."

Yr oedd Caiaffas, meddyliai Joseff, yn rhy glyfar i'r hen Rabbi syml a didwyll. Gwyddai na roddai'r Archoffeiriad bwys o gwbl ar y rheolau' cysegredig yn wir, yr oeddynt fel pla yn ei olwg. Ond ar ôl y fuddugoliaeth a enillasai yn y nos, troediai'n ofalus yn awr gwell rhagrith defosiynol yn wyneb y Rabbi Tobeias na dadleuon a cholli amser yn y Llys. Ac yr oedd yn amlwg oddi wrth wedd Tobeias i Gaiaffas ennill brwydr arall. Teimlai Joseff ei bod hi'n bryd iddo ef ymyrryd.

"Yr ydych yn anghofio'r peth pwysicaf, f'Arglwydd Caiaffas."

Edrychai'r tri ohonynt arno, wedi sylwi ar y cryndod yn ei lais. Daliai'r Archoffeiriad ei gwpan gwin yn ei law, ac yfodd yn araf cyn gofyn,

"A hynny?"

"Ein bod ni, arweinwyr y genedl, yn cynllwyn i ladd y Meseia."

Rhoes Caiaffas ddychryn duwiol, fel miswrn, ar ei wyneb a chododd oddi ar y fainc. Credent ei fod ar fin rhwygo'i ddillad, ond achubwyd ef rhag hynny gan guro ar y drws.

"Ie?"

"Yr Arglwydd Annas newydd gyrraedd, Syr. Y mae ef a'r Ysgrifenyddion yn aros amdanoch."

"Dof ar unwaith, dywedwch wrthynt."

Gwyddent beth a olygai hynny yr oedd Annas a'r Ysgrifenyddion yno i dynnu allan y warant a gyflwynid i Bilat. A rhaid oedd ei geirio'n ofalus er mwyn argyhoeddi'r Rhaglaw fod y Nasaread yn her i allu ac awdurdod Rhufain.

"Byddem yn ddiolchgar iawn am eich cymorth, Barchusaf Rabbi," meddai Caiaffas wrth Tobeias.

"O'r gorau, f'Arglwydd Caiaffas."

Dilynodd Tobeias yr Archoffeiriad o'r ystafell. Eisteddodd Nicodemus ar fainc esmwyth wrth y mur, gan syllu'n ddiobaith ar y llawr, ond cerddodd Joseff yn nerfus ymlaen ac yn