Tudalen:Yr Ogof.pdf/171

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ôl fel rhyw anifail caeëdig. Arhosodd o'r diwedd o flaen y llall.

"Pam y daethoch yma, Nicodemus?"

"Fel chwithau, i geisio dylanwadu ar Gaiaffas."

"Gwn hynny. Ond pam? A ydych yn . . . yn yn credu yn y Nasaread?"

Ni ddywedodd y Pharisead ddim am ennyd yr oedd, yn amlwg, yn ŵr gochelgar. Yna, fel petai'n cofio geiriau eofn Joseff wrth yr Archoffeiriad, ymwrolodd.

"Y Pasg dair blynedd yn ôl oedd hi," meddai'n freuddwydiol. "Yr oedd Cenan, brawd fy ngwraig, yn aros gyda mi dros yr Ŵyl. O'r Gogledd, o Fethsaida. Ganddo ef y clywais i sôn gyntaf am y Nasaread. Petawn i ddeugain mlynedd yn ieuangach, Nicodemus,' meddai wrthyf droeon, dilynwn y Rabbi hwn.' Dywedai fod rhai o wŷr ifainc Bethsaida yn gadael eu gwaith fel pysgodwyr i fynd ar ei ôl ac i'w dysgu ganddo. Pysgodwr oedd Cenan hefyd."

"Oedd?"

"Ie. Bu farw ddwy flynedd yn ôl. Soniai lawer am gymydog iddo o'r enw Sebedeus ac am ei ddau fab, Ioan ac Iago."

"Ioan? Cwrddais ef neithiwr—neu'r bore 'ma, yn hytrach."

"O? Ym'hle"?

"Yn nhŷ saer o'r enw Heman.'

Nodiodd Nocodemus yn araf, â gwên hiraethus yn ei lygaid.

"I dŷ Heman yr euthum innau i'w weld," meddai.

"I weld pwy? Y Nasaread?"

"Ie. Mynnodd Cenan imi fynd gydag ef i wrando arno'n athrawiaethu yng Nghyntedd y Deml. Ac wedi imi ei glywed, penderfynais geisio cael ymgom dawel ag ef yn ei lety. Galwodd Cenan Ioan o'r neilltu a threfnodd hynny. Liw nos, rhag i neb fy ngweld, euthum i dŷ Heman ac arweiniodd Ioan fi i'r oruwch-ystafell at y Rabbi. Bûm gydag ef yn hir. Aeth tair blynedd heibio er hynny, ond gallaf glywed ei lais y munud yma. 'Oddieithr geni dyn drachefn,' meddai, ni ddichon weled teyrnas Dduw

"Geni dyn drachefn?"

"Ie. Yr oedd ei eiriau'n dywyll i minnau. Am Deyrnas yr Iddewon a'r Meseia'n Frenin arni y meddyliwn i. Ond am eni dyn oddi uchod, o'r Ysbryd, y soniai ef. 'Yr hyn a aned o'r cnawd sydd gnawd,' meddai wrthyf, ond yr hyn a