Tudalen:Yr Ogof.pdf/174

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben y grisiau. Dyn canolig o ran maint oedd y Rhaglaw, ond ymddangosai'n dal yn awr yn ei urddwisg o liw'r hufen a'i hymyl o borffor drud, ac yn arbennig wrth ochr ei glerc byr a thew. Yn ei law daliai ei ffon fer o ifori, yn arwydd o'i awdurdod.

"Henffych, Ardderchocaf Raglaw!" meddai amryw o'r Cynghorwyr.

"Henffych!" atebodd Pilat yn gwta: nid oedd, yn amlwg, mewn un o'i hwyliau gorau. Yna, â threm frysiog tua'r warant yn nwylo'i glerc a thua'r carcharor,

"Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?"

Edrychodd Joseff a Nicodemus ar ei gilydd yn llawen. Hwn oedd y cwestiwn ffurfiol ar ddechrau pob praw Rhufeinig: a oedd Pilat am fynnu clywed yr holl dystiolaeth drosto'i hun? Os digwyddai hynny, âi'r carcharor yn rhydd wedi'i fflangellu, efallai—oherwydd gofynnai cyfraith Rhufain am achwynwyr ac achwynion pendant.

"Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr," atebodd Caiaffas, "ni thraddodasem ni ef atat ti." Dywedai ei dôn na hoffai'r ymyrraeth hon, a chofiodd Joseff hefyd am yr elyniaeth a oedd rhwng yr Archoffeiriad a'r Rhaglaw.

Edrychodd Pilat i lawr ar y carcharor, a daeth rhyw hanner-gwên i'w wyneb. Y breuddwydiwr hwn yn ddrwgweithredwr? meddai'i holl agwedd. Beth gynllwyn a oedd yn bod ar wŷr y Deml? Ofni colli'u gafael ar y bobl, efallaia cholli rhai o'u trethi. A, wel, rhyngddynt hwy a'u pethauau— a'u carcharor.

"Cymerwch chwi ef a bernwch ef yn ôl eich cyfraith eich hunain."

Rhoes Caiaffas gam ymlaen yn frysiog.

"Nid cyfreithlon i ni ladd neb," meddai." Meddai. "A chawsom hwn yn haeddu marwolaeth

"A'i drosedd?"

"Gŵyrdroi'r bobl a gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan hawlio mai ef ei hun yw Crist Frenin."

Celwyddau llithrig, a gwelai Joseff yr hen Rabbi Tobeias yn syllu'n hurt ar y Cynghorwyr o'i gwmpas. Ond miswrn difater oedd wyneb pob un ohonynt. Cychwynnodd Joseff i'r dde, gan fwriadu mynd i sibrwd gair yng nghlust Tobeias, ond cydiodd Nicodemus yn gyflym yn ei fraich.