Tudalen:Yr Ogof.pdf/176

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dawelwch. Darfu pob siarad a sisial a phwysai pawb ymlaen i glywed y ddedfryd. Safodd y Rhaglaw gyferbyn â Chaiaffas a chyhoeddodd mewn llais clir ac uchel,

"Nid wyf yn cael dim bai ar y dyn hwn."

Torrodd ystorm o wrthdystio.

"Y mae'n euog!"

"Cablwr!"

"Y mae'n haeddu marwolaeth!" "Terfysgwr!"

"Y mae'n cyffroi'r bobl yn erbyn Cesar!"

"Yn awr yn Jwdea!"

"Yma yn Jerwsalem!"

"Ar ôl ennill holl Galilea!"

"Tiberius! Tiberius am byth!"

"Nid Galilead!"

"Cesar, nid Galilead i ni!"

Tu ôl i'r ysgrechau hyn rhuai llu o leisiau mewn sŵn dieiriau, ac edrychodd y Rhaglaw braidd yn syn ar y dyrfa ac yna ar ei glerc. Ni ddisgwyliasai ef y fath gynnwrf. Taflodd drem ar Gaiaffas a'i ddyrnaid o Gynghorwyr—a deallodd. Hawdd oedd gweld oddi wrth wyneb yr hen Falachi'n unig mai ystorm wneud oedd hon: ni allai ef, fel yr Archoffeiriad, guddio'i foddhad.

Dywedodd Pilat rywbeth wrth ei glerc, a nodiodd hwnnw. Yna cododd swyddog ei law i alw am osteg.

"Ai Galilead yw'r dyn?" gofynnodd y Rhaglaw i Gaiaffas. "Ie, saer o Nasareth,"—y gair saer' mewn dirmyg. "Deiliad Herod Antipas, felly?"

"Ie, ond cyflawnodd yma yn Jerwsalem

Ond ni wrandawai Pilat. Troes at ei glerc a siaradodd yn dawel ag ef, gan wenu'n slei. Tybiodd Joseff mai dweud rhywbeth digrif am Herod yr oedd. Gwyddai am yr elyniaeth a oedd rhyngddynt.

Wedi iddo roi gorchymyn i'w swyddogion, brysiodd y Rhaglaw ymaith ar hyd yr oriel heb gymryd sylw pellach o'r Archoffeiriad a'i gyfeillion. Cerddai'n dalog, gan ddal i wenu ar ei glerc, a dywedai ysgogiad ei ben nad ddoe y ganwyd Rhufeinwr. Rhyngddynt hwy a'r hanner-Iddew Herod Antipas!

Ymunodd rhai o'r milwyr a'r swyddogion Rhufeinig yn awr