Tudalen:Yr Ogof.pdf/177

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â phlismyn y Deml, ac arweiniwyd y carcharor i lawr y grisiau ac ar draws y Palmant. Ymgynghorodd Caiaffas â'r Cynghorwyr, ennyd, ac yna, gan geisio ymddangos yn ddwys ac urddasol, cychwynasant ar ôl yr osgordd. Dilynodd Joseff a Nicodemus hefyd, ac o'u cwmpas ymwthiai'r bobl yn dyrfa swnllyd. Rhuthrai degau o rai eraill o'r tai hyd ochrau'r ystrydoedd troellog, a chyn hir yr oedd gorymdaith enfawr ar ei ffordd tua phlas Herod. Cerddodd Joseff yn araf, gan feddwl aros am Heman y Saer a'r lleill; yna sylweddolodd fod y bachgen Ioan Marc wrth ei ochr.

"Fy nhad am i chwi fynd yn eich blaen, Syr, a pheidio â chymryd arnoch eich bod yn ein hadnabod ni. Efallai y cewch gyfle i siarad dros y Meistr, Syr." Yna llithrodd y bachgen yn ôl a diflannu yn y dorf.

"Y mae Pilat yn gyfrwys," meddai Nicodemus fel y brysient ymlaen.

"Yn talu gwrogaeth i Herod?"

"Ie. Gŵyr fod Antipas yn ffafr yr Ymerawdwr."

"Fe ddylai fod—ar ôl codi dinas gyfan er mwyn rhoi'r enw C Tiberias' arni!"

"Clywais ei fod yn dal i yrru negeswyr i Rufain bob cyfle i achwyn yn erbyn Pilat. Fe wna hyn hwy'n gyfeillion, efallai! Beth a ddigwydd yn awr, debygwch chwi, Joseff?"

"Gwyddom beth fu hanes Ioan Fedyddiwr pan syrthiodd ef i ddwylo Herod," oedd yr ateb lleddf.

Yr oedd y cwrt mawr tu allan i blas Herod yn orlawn, a safai gwylwyr yn awr wrth y pyrth haearn i gadw'r bobl allan. Ond cafodd Joseff a Nicodemus yn eu gwisgoedd urddasol lwybr drwy'r dyrfa ymlaen at ymyl Caiaffas a'r Cynghorwyr. Nid oedd golwg o'r carcharor a'i osgordd: aethent hwy i mewn i'r plas, yn amlwg.

Gwaeddai'r bobl yn wyllt fel y gwnaethent o flaen Pilat, gan gyhuddo'r carcharor eto o gynhyrfu'r holl wlad yn erbyn awdurdod Cesar, o fod yn Jwdas o Gamala arall. Yr oedd enw Jwdas o Gamala yn ddychryn i Herod. Hwnnw, pan fu farw'i dad, Herod Fawr, a gychwynnodd wrthryfel y Selotiaid yng Ngalilea, gan gasglu byddin gref a meddiannu tref Sephoris a'i chronfa o arfau. Ond byr fu ei lwyddiant. Brysiodd y Cadfridog Varus a'i lengoedd i lawr o Syria, a chreulon fu'r dialedd. Llosgwyd Sephoris i'r llawr a gwerth-