Tudalen:Yr Ogof.pdf/178

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd holl bobl y dref yn gaethion: lladdwyd miloedd drwy'r wlad croeshoeliwyd dwy fil yn Jerwsalem. Dihangodd Jwdas i aros am gyfle arall, ond pan gododd ei faner eilwaith ymhen rhai blynyddoedd, cymhellodd awdurdodau'r Deml y bobl i fodloni ar dalu'r trethi i Rufain. Ac yn awr wele Jwdas o Gamala arall yn y ddalfa, a gwŷr y Deml unwaith yn rhagor yn achub yr Iddewon rhag gwrthryfel a'r gosb ofnadwy a'i dilynai!

Ond chwerthin a wnâi'r Tetrarch am ben y fath gyhuddiad, meddai Joseff wrtho'i hun. Onid oedd ganddo ysbïwyr drwy holl Galilea ac oni wyliai'r rheini symudiadau pob un a ymddangosai'n derfysgwr? Na, ni thwyllid yr hen gadno Herod Antipas gan yr achwynion hyn.

Beth a ddigwyddai tu fewn i'r plas, tybed? Yr oedd y drysau trymion yn agored, a gwelai Joseff a Nicodemus nifer o wylwyr Herod a rhai o blismyn y Deml wrth ddrws y Neuadd ar y chwith yno, felly, y safai'r carcharor o flaen y Tetrarch. Tawelodd y dyrfa'n awr, ond clywai Joseff rai ohonynt yn sisial wrth ei gilydd o'i amgylch.

"Dyma'i gyfle o'r diwedd," sylwodd un dyn mawr ac araf, gan droi'i ben yn gall cyn chwilio am le i boeri ar y llawr. Yr oedd wrthi'n cnoi rhywbeth, a sylwai Joseff fod ei boer yn diferu o'i enau i'w farf.

"Pwy? Antipas?" gofynnodd ei gymydog, gŵr bychan eiddil ond un awdurdodol ei lais, a'i lediaith Roeg mor amlwg ag y gallai ef ei gwneud.

"Ie," meddai'r poerwr a'i lygaid gweigion yn cau gyda'i gilydd mewn winc ddoeth. "Fe geisiodd ddal hwn droeon o'r blaen."

"Do, mi wn, up in Galilee."

"Do.

Un o Galilea yw Sem fy nghefnder, ac mi glywais i Sem yn . . .

"Dianc ar draws y Llyn every time."

"Ie, dyna oedd Sem yn ddweud."

"Every time. Gwneud speeches o gwch wrth y lan, ac yna off ag ef. i wlad Philip, brawd Herod Philip ddim yn trwblio'i ben about him. Ond yr oedd Antipas. John the Baptist risen from the dead."

"Y?"

"Ioan Fedyddiwr wedi codi eto! Dyna oedd Herod yn gredu."